31 Mawrth 2023
Annwyl ddysgwyr, rhieni a gwarcheidwad,
Dyma ni wedi cyrraedd diwedd tymor ysgol llwyddiannus arall ac felly mae’n amserol i ddiolch i chi gyd am eich cefnogaeth i’n hysgol dros y blynyddoedd, ond yn benodol yr wythnos hon.
Mae wedi bod yn fraint i ni gael rhannu ein hysgol gydag arolygwyr Estyn yr wythnos hon. Ni chaf rannu cynnwys yr adroddiad tan iddo gael ei gyhoeddi ar 05.06.23, ond hoffwn i ddiolch i bawb am eu gwaith caled a chefnogol yn ystod yr ymweliad. Rydw i’n ymfalchïo’n fawr yn yr hyn a welodd Estyn a’r profiadau a gawsant wrth drafod â dysgwyr, rhieni, staff a llywodraethwyr. Daethant i adnabod a deall gwerthoedd ac effaith Tîm Llan a’r gwaith ardderchog sydd yn digwydd yma. Felly, diolch yn fawr iawn i chi gyd.
Bydd nawr yn gyfle haeddiannol i ni fwynhau’r gwyliau ac i atgoffa dysgwyr y blynyddoedd hŷn bod y cyfnod arholiadau yn agosáu ac yn cychwyn yn fuan wedi i ni ddychwelyd. Mae’n bwysig felly i gymryd y gwyliau i drefnu eich gwaith, cychwyn adolygu, ond i fwynhau yn ogystal.
Rwy’n dymuno Pasg hapus i chi gyd.
31 March 2023
Cofion,
Meurig Jones
Prifathro