Ethos

Nod ac amcanion yr ysgol yw:

  • Hyrwyddo ethos Tîm Llan fel dysgwyr, staff, rhieni a llywodraethwyr, wrth gydweithio’n effeithiol â’n gilydd i sicrhau llwyddiant pob dysgwr ac enw da yr ysgol.
  • Creu cymdeithas fyw lle y gwerthfawrogir gwerthoedd moesol ac ysbrydol a lle y pwysleisir rhinweddau megis cyfiawnder, gonestrwydd, ymddiriedaeth, goddefgarwch ac ymdeimlad o ddyletswydd.
  • Rhoi cyfle i bob dysgwr feistroli’r grefft o gyfathrebu drwy’r Gymraeg a’r Saesneg, gan bwysleisio’r Gymraeg fel iaith naturiol ac addysgol yr ysgol.
  • Datblygu’r ethos o Dîm Llan, drwy gynorthwyo’r dysgwr i ddatblygu sgiliau ar gyfer byd gwaith a fydd yn ei alluogi i weithio fel aelod o dîm ac yn annibynnol.
  • Paratoi pob dysgwr i fyw fel aelod cyfrifol a gwerthfawr o’r gymdeithas, i ddatblygu perthynas gadarnhaol gydag eraill ac i ddatblygu hunan-barch a pharch at bobl, eiddo a’r amgylchedd.
  • Cynorthwyo’r dysgwr i werthfawrogi treftadaeth a diwylliant Cymru ac i fedru cyfrannu at gymdeithas amlieithog yng Nghymru, Ewrop a’r byd.
  • Sicrhau cyfleoedd priodol i holl aelodau staff yr ysgol i ddatblygu’n broffesiynol.