Gwisg Ysgol

Canllawiau Gwisg Ysgol Bl 7-11

Manylion y Wisg
  • Crys chwys gwddf rownd neu gardigan lwyd Ysgol Llangynwyd.
  • Crys polo glaswyrdd Ysgol Llangynwyd.
  • Trowsus ysgol du syth gyda llinell hem llac neu sgert ddu hyd synhwyrol. Ni chaniateir trowsus arddull jîns, trowsus wedi fflerio, legins neu skinny. Os yw trowsus i’w weld yn rhy dynn mi fydd gofyn i ddysgwyr newid eu trowsus.
  • Sanau du, llwyd tywyll neu glas tywyll gyda throwsus du.
  • Teits trwchus du neu sanau ¾ gyda sgert.
  • Dylai ond ddefnyddio lliwiau gwallt naturiol i newid lliw gwallt. Dylai arddull gwallt fod yn synhwyrol – dim tramleiniau, Mohicans ayyb.
Esgidiau Ysgol Derbyniol

Esgidiau ysgol math lledr du gwastad

Esgidiau Annerbyniol

Nid yw’r mathau canlynol o esgidiau yn dderbyniol:

  • Esgidiau canfas
  • Trainers neu esgidiau gyda logo
  • Esgidiau arddull top uchel
Ni chaniateir dysgwyr i wisgo:
  • Colur
  • Gemwaith e.e. mwclis, breichled neu unrhyw glustlws neu dlysau corff
  • Ewinedd wedi eu peintio, ffug neu acrylig

 

Canllawiau Gwisg Ysgol y Chweched

Disgwylir i ddysgwyr y Chweched sicrhau’r safonau gorau o ran y wisg ysgol.

Manylion y Wisg
  • Siwmper llwyd tywyll, arddull “V” gyda fersiwn y Chweched Dosbarth o fathodyn ysgol arni neu,Cardigan llwyd tywyll, gyda fersiwn y Chweched Dosbarth o fathodyn ysgol.
  • Crys gwyn llewys byr neu hir.
  • Tei chweched.
  • Trowsus neu sgert ddu (synhwyrol, proffesiynol).
  • Esgidiau ysgol math lledr du gwastad (ni chaniateir esgidiau canfas, trainers, sodlau uchel neu “boots”).
  • Steil gwallt a cholur synhwyrol a phroffesiynol.
Gemwaith
  • Caniateir y canlynol:
  • Un pâr o dlysau (styds) yn y glust yn unig
  • Un freichled
  • Nifer synhwyrol o fodrwyon
  • Ni chaniateir tlws yn y trwyn.

 

Cyflenwyr Gwisg Ysgol

Gwyn Richards
01656 732376
17 Talbot St, Maesteg, Penybont ar Ogwr CF34 9BW

Euro Schools
01656 654012
Penybont Court, Ogmore Terrace, Bridgend CF31 1JB

Euro Schools
01656 730624
Commercial St, Maesteg, Penybont ar Ogwr CF34 9DF