Newyddion Diweddaraf

Llythyr Ymddygiad Trafnidiaeth Ysgol

Llythyr Ymddygiad Trafnidiaeth Ysgol 

Annwyl riant/warchodwr,

Gwelir wedi atodi llythyr pwysig ynglŷn a cod ymddygiad a disgwyliadau ar bysiau ysgol. Gofynnwn i chi gymryd amser i’w ddarllen a trafod goblygiadau o dorri’r rheolau yma tra yn teithio ar y bysiau. Hoffai’r ysgol gyd-weithio gyda chi a dysgwyr i sicrhau fod pawb yn medru teithio i’r ysgol yn ddiogel.

Yn gywir/ Yours sincerely,

 

Mr Owain Tudur

Uwch Arweinydd Addysgeg Bugeiliol

Senior Leader of Pastoral Pedagogy

Rhybudd Coch Tywydd

Rydym ymwybodol o’r rhybudd coch sydd yn ei le ar gyfer dydd Mercher a Iau yr wythnos hon.

Byddwn yn parhau i fonitro’r newyddion ac yn trafod gydag ysgolion y sir ynghyd ag aros am gyfarwyddyd pellach gan yr awdurdod lleol.

Ein blaenoriaeth fel ysgol yw gweithredu mewn modd sy’n sicrhau diogelwch a lles ein dysgwyr a’n staff a byddwn yn eich hysbysu am unrhyw newid i’r trefniadau presennol yfory.