Newyddion Diweddaraf

YGGLLAN: HYSBYSEB SWYDD

Athro/awes Dylunio a Thechnoleg

https://clientportal.eteach.com/admin#:~:text=https%3A//www.eteach.com/job/athroawes%2Ddylunio%2Da%2Dthechnoleg%2D1202481

 

Athro/awes Saesneg

https://clientportal.eteach.com/admin#:~:text=https%3A//www.eteach.com/job/athroawes%2Dsaesneg%2D1202487

 

Athro/awes Gwyddoniaeth

https://clientportal.eteach.com/admin#:~:text=https%3A//www.eteach.com/job/athroawes%2Dgwyddoniaeth%2D1202496

 

Athro/awes Mathemateg

https://clientportal.eteach.com/admin#:~:text=https%3A//www.eteach.com/job/athroawes%2Dmathemateg%2D1202498

YGGLLAN: Casgliad i’r Banc Bwyd

 

YGG Llangynwyd yn gorffen y tymor yn gwisgo siwmperi Nadoligaidd ac yn casglu dros 30 o focsys llawn nwyddau ar gyfer y Banc Bwyd lleol. 

Diolch a Nadolig Llawen Iawn i chi gyd

 

CBSP: Neges Pwysig Prydiau am Ddim 14/12/2021

Talebau talu am brydau ysgol am ddim dros wyliau’r Nadolig

 

Mae’r awdurdod lleol wrthi’n anfon talebau i ddisgyblion sydd â hawl i ginio ysgol am ddim (eFSM) gwerth £39 dros wyliau’r Nadolig. Cofiwch y gall gymryd nifer o ddiwrnodau i’r holl dalebau gyrraedd rhieni/gofalwyr. Peidiwch â chysylltu â’r awdurdod lleol oni bai bod eich taleb heb gyrraedd erbyn dydd Gwener 17 Rhagfyr. Ar y dyddiad hwn, nid fyddwn yn ymateb i unrhyw ymholiad.

 

Gan fod y talebau’n cael eu hanfon fesul pentwr, mae’n bosibl na chewch eich talebau i gyd gyda’i gilydd. Os ydych chi’n disgwyl mwy nag un daleb (un i bob plentyn), mae’n bosibl y cewch rhai mewn neges destun a rhai mewn e-bost gan ddibynnu ar y manylion cyswllt y mae ysgol eich plentyn wedi’u rhoi i ni.

Edrychwch drwy’ch ffolder SPAM cyn ceisio cysylltu â’r awdurdod lleol..

 

Byddwch yn cael y daleb naill ar drwy neges destun i’ch ffôn symudol gan ‘Cash Out’ neu drwy’r e-bost gan no-reply@paypointsvp.com