Gyrfâu

Mae gyrfaoedd a’r byd gwaith yn rhan bwysig o’r cwricwlwm ysgol a’r broses o baratoi pobl ifanc i symud i fyd cyflogaeth yn y dyfodol. Fel ysgol rydym yn sicrhau bod pobl ifanc yn cael cyfleodd i ddysgu am y byd gwaith, y sgiliau, yr wybodaeth a’r cymwysterau sydd eu hangen ar gyflogwyr, a’r holl ddewisiadau gyrfa sydd ar gael. Er nad yn statudol mae’r ysgol yn parhau i gynnig cyfle i ddysgwyr ymgymryd â phrofiad gwaith ym mlwyddyn 10 ac eto ym mlwyddyn 12.

Mae’r ysgol yn gweithio’n agos gyda Gyrfa Cymru ac mae’r Swyddog gyrfâu yn gweithio yn yr ysgol dwy waith yr wythnos er mwyn gallu cynnig cyngor di-duedd i ddysgwyr. Mae’r swyddog hefyd yn rhannu gwybodaeth am gyfleon gyrfaol lleol megis prentisiaethau una’i drwy gyfarfodydd, wefan GyrfaCymru neu drwy hysbysfwrdd gyrfâu yr ysgol. Cyflwynir y tîm o staff Gyrfa Cymru sy’n cydweithio gyda’r ysgol isod.

Tim Gyrfa Cymru YGG Llangynwyd

O flwyddyn 7 mae’r dysgwyr yn derbyn mynediad i wefan GyrfaCymru sydd â llu o wybodaeth a gweithgareddau sy’n ymwneud â chyflogadwyedd a’r byd gwaith. Yn CA4 mae’r dysgwyr yn debryn cyfrif Unifrog. Gwefan yw Unifrog.org sy’n cynorthwyo dysgwyr wrth ymchwilio a chynlluniau at y dyfodol boed yn addysg bellach, prentisiaeth neu cyflogaeth.

Yn ogystal mae’r ysgol yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau drwy’r cwricwlwm a diwrnodau Her pwrpasol er mwyn cynorthwyo dysgwyr i wneud dewisiadau gwybodus am eu dyfodol.

 

CA3 ·         Gweithgareddau menter fel dylunio a gwerthu cynnyrch neu gwasanaeth

·         Adnabod a datblygu sgiliau personol a rhyngbersonol

·         Gwerthfawrogi’r angen i reoli arian personol

·         Cyflwyniadau am Lwybrau Dysgu ôl 14 a’r farchnad lafur

CA4 ·         Her Menter a Chyflogadwyedd Cenedlaethol / Sylfaenol

·         Datblygu dealltwriaeth am reoli cyllid ac arbed arian.

·         Datblygu’r arddull o ysgrifennu CV a pharatoi at gyfweliad

·         Profiad Gwaith

·         Cyflwyniadau am Lwybrau Dysgu ôl 16 a’r farchnad lafur

·         Ymweliadau gyrfâu megis Ffair gyrfa amrywiol, SkillsCymru, Prifysgolion

·         Cyfarfodydd unigol i bob dysgwr i drafod a chynorthwyo â llwybrau ôl 16

CA5 ·         Her Menter a Chyflogadwyedd Uwch

·         Datblygu’r arddull o ysgrifennu datganiad personol a pharatoi at gyfweliad

·         Adnabod cyfleon gyrfau gan gynnwys addysg bellach, prentisiaethau a swyddi cyflogedig.

·         Deall nodweddion cyflog a thal.

·         Datblygu dealltwriaeth am gredyd a lle i gael cyngor di-duedd.

·         Profiad Gwaith