Menter Bro Ogwr

Mae Menter Bro Ogwr yn hybu ac yn hyrwyddo’r defnydd o’r iaith Gymraeg drwy gydweithio â mudiadau, cymdeithasau, busnesau, dysgwyr ac ysgolion. Bwriad y Fenter yw codi proffil yr iaith Gymraeg yn y sir gan gynyddu cyfleoedd trigolion o bob oedran ddefnyddio’r iaith mewn amrywiaeth o feysydd. Mae hyn yn cynnwys gwasanaeth i ddarparu cyfleoedd i bobl ifanc ddefnyddio eu Cymraeg mewn amgylchedd gwaith ieuenctid.

Mae hwn yn wasanaeth hanfodol i sicrhau ein bod yn darparu darpariaethau ieuenctid mynediad agored cyfrwng Cymraeg i bobl ifanc fel y gallant gael hwyl ac ymgymryd â darpariaeth addysgiadol, mynegiannol, cyfranogol a grymuso ac sy’n dangos bod yr Iaith Gymraeg yn iaith fyw tu allan i’r ystafell ddosbarth. Er mwyn sicrhau’r gwasanaeth hon, mae gan Fenter Bro Ogwr aelod o staff sy’n gweithio o fewn Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd.

Mae Menter Bro Ogwr yn cyflwyno gwasanaeth i sicrhau bod pobl ifanc yn derbyn cyfle teg yn eu bywydau nhw – cyfle am lwyddiant. Mae cynllun cymorth yn ei le lle bydd gan bobl ifanc cyfle i fynychu sesiynau 1 i 1 gyda Swyddog Ieuenctid y Fenter i drafod unrhyw beth sy’n achosi anhawster iddyn nhw yn eu bywyd ysgol a hefyd tu fas i’r ysgol. Byddwn hefyd yn cynorthwyo’r bobl ifanc yma o ran addysg ysgol, trwy helpu gyda gwaith y dosbarth.

Trwy dderbyn y gefnogaeth gywir bydd bobl ifanc yn codi eu hyder a hunan-barch, yn eu galluogi gwneud penderfyniadau gwell, ymdopi o dan bwysau, LLWYDDO.

Mae Menter Bro Ogwr yn cynnal clybiau ieuenctid rheolaidd o fewn yr Ysgol. Mae’r clybiau yn anffurfiol lle y mae’r bobl ifanc yn gallu mynychu clwb ieuenctid yn ystod amser cinio er mwyn cymdeithasu gyda’u ffrindiau a chael llawer o hwyl yn ymgymryd ag amrywiaeth o weithgareddau.