Newyddion Diweddaraf

Oes diddordeb gyda chi mewn dysgu Cymraeg? 

Oes diddordeb gyda chi mewn dysgu Cymraeg?  Beth am ymuno ag un o ddosbarthiadau Dysgu Cymraeg Morgannwg?  Mae dosbarthiadau ar bob lefel, o ddechreuwyr i siaradwyr rhugl sy eisiau gloywi eu hiaith.

Gyda dewis o ddosbarthiadau yn ystod y dydd a gyda’r nos, ar-lein trwy MS Teams neu wyneb yn wyneb, mae rhywbeth i bawb

Ewch i www.learnwelsh.cymru/mg i ddewis eich cwrs.

 

50% bant o gost eich cwrs gyda’r cod WELSH24

 

Cyrsiau gyda chyllideb lawn ar gyfer dysgwyr rhwng 18-25 (does dim eisiau cod) neu os ydych chi’n gweithio ym myd addysg yng Nghymru (cysylltwch â learnwelsh@southwales.ac.uk am god disgownt)

Dechreuwr pur ac eisiau cael blas ar wersi Cymraeg?  Sesiynau blasu ar gael am ddim.

YGGLLAN: Defibruary 1/2/2024

Gwelir poster wedi atodi i’ch hysbysu am ddigwyddiad Defibuary fydd yn digwydd yn yr ysgol ar ddydd Iau 1/2/24. Mi fydd hawl gan ddysgwyr i wisgo gwisg eu hunain i’r ysgol, os dymunant, am gyfraniad o £1 (arian parod) tuag at St John Ambulance.

Diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth/ Thank you very much for your support.