Pontio

6.10.2021 Noson Agored Bl 6 2021

Pecyn gwybodaeth i rieni dysgwyr blwyddyn 6 i gynorthwyo gyda’r broses trosglwyddo i Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd

Pecyn Pontio i Rhieni

Wefan Gwybodaeth Pontio 2021-2022

Trosglwyddo o’r Cynradd

Mae symud o’r ysgol gynradd i’r uwchradd yn gam pwysig ac yn gam mawr i blentyn ei gymryd. Mae’r ysgol yn ymwybodol o hyn ac wedi datblygu rhaglen i geisio sicrhau bod y trosglwyddo yn broses ddibryder i bob dysgwr sydd yn dod atom. Trefnir noson agored ar gyfer pob teulu sy’n ystyried anfon plentyn i Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd. Mae croeso hefyd i deuluoedd unigol gysylltu â ni i drafod unrhyw agwedd o fywyd Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yr hoffent gael mwy o wybodaeth amdano neu i ymweld â’r ysgol.

Yn ystod tymor yr haf bydd yr Arweinydd Cynnydd a Lles sy’n gyfrifol am bontio o Flwyddyn 6 i Flwyddyn 7, ynghyd â’r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol yn ymweld â phob plentyn yn ei ysgol gynradd. Hefyd trefnir diwrnodau trwy gydol blwyddyn 5 a 6 i’r dysgwyr ymweld â’r ysgol er mwyn i’r plant gyfarwyddo gyda threfn y dydd, dod i adnabod ei gilydd, y staff a’r ysgol a chael cyfle i holi unrhyw gwestiynau cyn dechrau ym mis Medi.

Yn ystod y tymor cyntaf mae rhieni yn derbyn adroddiad cynnydd ac i’w ddilyn noson rieni i drafod cynnydd y dysgwr yn y pynciau.

Credwn fod y drefn o drosglwyddo o’r cynradd i’r uwchradd, a sicrhau bod bob plentyn yn setlo’n gyflym yn y flwyddyn gyntaf, yn un gynhwysfawr a’i bod yn gweithio’n effeithiol.

Yn ychwanegol at hyn mae’r ysgol yn annog pob rhiant i gysylltu â ni ynglŷn ag unrhyw agwedd o fywyd yr ysgol yn ôl yr angen, ac i beidio ag oedi rhag gwneud hynny. Rydym am gydweithio mewn partneriaeth glos gyda theuluoedd.