Newyddion Diweddaraf

SYSTEM ARLWYO DI-ARIAN

SYSTEM ARLWYO DI-ARIAN

Am fanylion ar sut ychwanegu arian i gyfrif eich plentyn, dilynwch y linc isod

Camau rhoi arian ar y cyfrif gan BCBC

Byddwch yn ymwybodol bod rhaid i unrhyw daliadau cael ei chwblhau ar-lein yn unig.

Dysgwyr newydd Blwyddyn 7: Danfonwyd llythyr i rieni / gwarcheidwaid o’r dysgwyr newydd sydd yn cynnwys ffurflen caniatâd biometreg (ffurflen oren). Plîs sicrhewch fod hwn yn cael ei llenwi a danfon nôl i’r ysgol ar ddydd Gwener, 4/9/2020.

Diolch am eich cefnogaeth barhaus

Diolch

Y Swyddfa

 

 

Canlyniadau TGAU Bl 10 – Haf 2020

Byddwn yn ebostio canlyniadau Blwyddyn 10 erbyn diwedd y dydd ar ddydd Iau 20fed o Awst 2020.

Gwiriwch eich ebost Google yr ysgol.

 

Neges gan CBSP am Docynnau Bws Medi 2020

Yn sgil y pandemig COVID-19 a gofynion cadw pellter diogel sydd dal yn eu lle ar drefnidiaeth ysgol, bydd dosbarthu a defnyddio tocynnau bws ar gyfer pob dysgwr cymwys yn cael eu gohirio o fis Medi ymlaen nes clywir yn wahanol.  Pwrpas y weithred hon yw i leihau amser llwytho a dadlwytho’r bysiau ac i gadw pellter cymdeithasol rhwng y gyrrwr a’r dysgwyr.