Darllenwch rhagor o fanylion ynglun a Dysgu Hirbell i flwyddyn 9 26-27/11/2020 yma.
Newyddion Diweddaraf
Mygydau – 24/11/2020
Diwrnod Heriau 24/11/2020
Blwyddyn 8 i wisgo cit add gorff i’r ysgol yfory, 24/11/2020
Diolch
Y Tim Heriau
Noson Rhieni Rhithiol Blwyddyn 9
Noson Rhieni Rhithiol Blwyddyn 9
Newidir dyddiad Noson Rieni Blwyddyn 9 i nos Iau 10.12.2020. Rhennir llythyr yn amlinellu trefniadau’r noson rieni rhithiol gydag adroddiad interim eich plentyn. Bydd angen i chi ddilyn y linc yma i gofrestru gyda’r pynciau dewisol.
Noson Rhieni Blwyddyn 11
Gallwch ddarllen manylion noson rhieni blwyddyn 11 yma.
Arholiadau Ionawr 2021
Gallwch ddarllen gwybodaeth am arholiadau Ionawr 2021 yma.
Teyrnged i Mr Craig Howard – Cyn athro ITM Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd.
Newyddion 18-11/2020
Noson Agored Rhithiol Bl 6
Mae ein gwefan ar gyfer Noson Agored Bl 6 bellach yn fyw, plis cliciwch ar y linc.
Gallwch fynd ar daith o amgylch yr ysgol trwy gwylio’r fideo isod.
Plant Mewn Angen 2020
Hoffwn ddiolch i bawb a wnaeth gyfrannu at ein casgliad ar gyfer Plant Mewn Angen dydd Gwener ddiwethaf.
We would like to thank everyone that contributed to our collection for Children in Need last Friday.
Cyfanswm £782.65 Total
Diolch yn arbennig i’r dosbarthiadau canlynol a godwyd symiau uchel:
With special thanks to the following classes who collected the most:
7 Garw 1 = £43.95
8 Ogwr 1 = £42.90
7 Llynfi 1 = £38.00
Diolch unwaith eto i bawb!
Dydd Gwener 13/11/2020
Yfory byddwn fel ysgol yn dathlu ddiwrnod Plant Mewn angen! Mae gwahoddiad i ddysgwr mynychu’r ysgol mewn gwisg ei hunain, yfory, er mwyn codi arian at yr elusen. Gofynnwn yn garedig am gyfraniad o £1 gan bob person sydd wedi gwisgo yng ngwisg eu hunain.
PWYSIG
DIM gwisg ffansi, DIM sliders na flip flops. Cofiwch fod y dillad yn addas i ddiwrnod o ysgol.
ADDYSG GORFFOROL
Os oes gwers add gorff gennych, plis gwisgo gwisg Add Gorff addas ar gyfer y diwrnod gan nad oes cyfleusterau newid ar gael o ganlyniad i ganllawiau Cofid.
Diolch am eich cefnogaeth.