Newyddion Diweddaraf

WYTHNOS GWRTH-FWLIO 2023: 📢GWNEWCH SŴN AM FWLIO 📢

I ddechrau wythnos Gwrth-fwlio mi ydym yn annog dysgwyr i wisgo sanau od ar DDYDD LLUN 13/11/23. 🧦🧦 Mae hwn i godi ymwybyddiaeth fod bwlio ddim yn dderbyniol a bod hi’n gyfrifoldeb ar bawb i wneud sŵn am fwlio i sicrhau nad yw’n digwydd.

Mi fyddwn yn cynnal gweithgareddau Codi Llais drwy gydol yr wythnos i gefnogi’r wythnos!

Am fwy o wybodaeth ewch i: https://anti-bullyingalliance.org.uk/

Diolch yn fawr iawn/ Thank you very much,

Tîm Llan

YGGLLAN: Polisi Gwisg Ysgol

Annwyl riant/warchodwr,

Fel yr ydych yn ymwybodol, mae’r ysgol yn hynod o falch o’r safonau a disgwyliadau sy’n cael ei osod ac mae’n destyn dathlu yr ymdrech sydd yn cael ei wneud gan y mwyafrif o ddysgwyr a theuluoedd i’w cyrraedd. Hoffwn i gymryd y cyfle yma i rannu gyda chi ein polisi gwisg ysgol gan dynnu sylw penodol tuag at y disgwyliadau am siwmperi llwyd ysgol yn unig (dim hoodies o unrhyw fath), sannau tywyll (dim gwyn) ac esgidiau math lledr du gwastad.

Gofynnwn am eich cydweithrediad i sicrhau fod y safonau yma yn cael ei gyrraedd gan bob un o’n dysgwyr os gwelwch yn dda.

Diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth parhaol,

Tîm Llan

 

Polisi Gwisg Ysgol School Uniform Policy

Mae’r awdurdod lleol wedi dadactifadu’r e-bost a anfonir at rieni/gofalwyr yn awotmatig i roi balans cyfrif prydau ysgol, a hynny oherwydd problemau’n ymwneud â’r gwaith o uwchraddio’r system arlwyo heb arian.

 

Byddai system Civica Cashless Solutions yn echdynnu gwybodaeth am e-bost rhieni oddi ar SIMS i gynhyrchu gwybodaeth am gyfrifon disgyblion. Fodd bynnag, fel y gwyddoch, rwy’n siŵr, rydym yn awr yn defnyddio system ‘Wonde’. Mae system Civica yn lawrlwytho gwybodaeth am y disgyblion drwy Wonde ac yna’n anfon y wybodaeth honno ymlaen i system e-bost y Cyngor fel tasg benodol, er mwyn cynhyrchu e-bost i rieni sy’n rhoi balans y disgybl. Yn anffodus, oherwydd problem â’r system, mae rhai negeseuon e-bost yn cael eu hanfon at y rhieni/gofalwyr anghywir, ac mae hynny’n fygythiad posibl i weithdrefnau diogelu data a/neu  unigolion.

 

Gan nad yw Civica yn gyfrifol am ddilysrwydd y data a ddefnyddir i anfon e-bost am falansau a chan nad yw system e-bost y Cyngor yn gallu glanhau’r data i sicrhau bod y negeseuon e-bost yn cael eu hanfon i’r rhieni/gofalwyr cywir, mae’r awdurdod lleol wedi gorfod gwneud penderfyniad i gau’r system e-bost benodol hon dros dro er mwyn osgoi’r posibilrwydd o dorri rheoliadau diogelu data neu unigolion.

 

Byddwn yn ddiolchgar pe gallech roi gwybod i’ch rhieni am y broblem hon a dweud wrthynt bod yr awdurdod lleol yn gweithio’n agos gyda Civica i ddatrys y broblem a chaniatáu i rieni a gofalwyr fedru cael negeseuon e-bost awtomatig yn rhoi balansau eto’n fuan iawn.

 

Diolch am eich cydweithrediad yn y cyswllt hwn.