Post croeso

Croeso i’n gwefan newydd! Mae dewis yr ysgol gywir i’ch plentyn yn hollbwysig ac mae rhieni’n awyddus i sicrhau addysg dda i’w plant, eu bod yn hapus ac yn ddiogel. Yn Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd, cynigwn yr holl agweddau hyn mewn awyrgylch Cymraeg a Chymreig.

Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yw’r unig ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn sir Pen-y-bont ar Ogwr. Rydym yn dathlu cyfoeth hanes Cymreig yr ardal ac yn ymfalchïo yn ein llwyddiant ac yn ein gallu i ddatblygu dinasyddion sy’n hollol ddwy-ieithog cyn iddynt adael yr ysgol.

Wrth ddathlu ein penblwydd yn ddeng mlwydd oed fis Medi, ymfalchïwn ym mrwdfrydedd, egni ac ymroddiad ein staff, dysgwyr, rhieni ac ein hysgolion cynradd, wrth adlewyrchu’r dymuniad i gynnig addysg cyfrwng Cymraeg o’r safon uchaf. Fel Tîm Llan gyda’n gilydd anelwn am y gorau, er mwyn cyflawni ein potensial a llwyddo.

Meurig Jones
Prifathro