Newyddion Diweddaraf

Ras Rynglysol Cofio Kyan Interhouse Rememberence Race

DYDD MAWRTH 12/9/23 TUESDAY

Ar ddydd Mawrth, 12fed o Fedi byddwn yn cofio dysgwr annwyl i’r ysgol, Kyan Harris. Roedd Kyan yn ddysgwr cystadleuol oedd yn caru bob math o chwaraeon ac fyddwn yn dathlu ei fywyd gan gynnal ras rhynglysiol trawsglwad ysgol! Mi fydd yr ysgol yn codi arian i elusen oedd wedi rhoi gymaint o gyfleoedd a chefnogaeth i Kyan a’i deulu, Dreams and Wishes. Gallwch gyfrannu at yr elusen drwy system dalu’r ysgol GATEWAY neu mi fydd modd i ddysgwyr ddod a arian parod i mewn i bwcedi.

TREFNIADAU 

  • Pawb i ddod mewn i’r ysgol mewn gwisg iechyd a lles (mae hawl i wisgo crys lliw llys).
  • Bydd ystafelloedd newid ar agor ar ôl bob ras i ddysgwyr newid mewn i wisg ysgol (yn unig) neu mae modd aros yn eich gwisg iechyd a lles tan ddiwedd y dydd.
  • Pellter Rhedeg
    • Blwyddyn 7 a 8 – 2Km (Gwers 1)
    • Blwyddyn 9 a 10- 2.5Km   (Gwers 2)
    • Blwyddyn 11, 12 a 13- 3Km (Gwers 3)
  • Unrhyw ddysgwyr sydd methu cymryd rhan llawn yn y ras, mi fydd gofyn iddynt ddod a llythyr o’r cartref. Byddai’n fudd fod pawb yn cymryd rhan yn y diwrnod ac mi fydd llwybr cerdded yn cael ei ddarparu.
  • Dewch a digon o ddŵr ar gyfer y ras. Mi fydd ffynhonnau dŵr ar gael i ail lenwi.

Edrychwn ymlaen yn fawr iawn i godi arian i gofio Kyan ac i weld pa lys fydd yn fuddugol!

YGGLlan: Pecyn Pontio Llangynwyd

Annwyl Riant/Gwarcheidwad,

Gweler isod y ddolen i becyn pontio Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd. Gobeithiwn y byddwch yn dod o hyd i atebion i’ch cwestiynau yma. Edrychwn ymlaen at groesawu eich plentyn i Langynwyd ym mis Medi!

 

Cliciwch yma>>Pecyn Pontio Llangynwyd Transition Pack<< Click here

 

Dear Parent/Guardian,

Please see below the link to Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd’s transition pack. We hope that you will find answers to any of your questions here. We look forward to welcoming your child to Llangynwyd in September!

 

Diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth/ Thank you very much for your support,

Mr Owain Tudur

Uwch Arweinydd Lles

Senior Leader of Well-being

 

YGGLlan: Mabolgampau

Mabolgampau’r Ysgol 

 

Annwyl Riant / Warcheidwad,

 

Ar Ddydd Mercher 19eg o Orffennaf, cynhelir Diwrnod Mabolgampau Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yng Nghanolfan Athletau Abertawe.

 

Bydd y bysiau yn casglu eich plentyn fel arfer ac yn mynd yn syth i’r Stadiwm yn y bore ac yn casglu y disgyblion oddi yno am 2.30pm.  Ni fydd y bysiau yn dychwelyd i’r ysgol ond yn cludo eich plentyn syth adref.  Bydd amser casglu a dychwelyd y disgyblion mor agos a phosibl i ddiwrnod ysgol arferol. Bydd bws yn cludo y disgyblion hynny sydd yn cerdded i’r ysgol a disgyblion o Faesteg sy’n teithio ar fysiau Llynfi yn gadael o safle’r ysgol am 8.30am.  Disgwylir iddynt fod yno yn brydlon, byddant yn dychwelyd ar gyfer 3.15pm ac yn mynd adref o safle’r ysgol fel arfer.  Ni chaniateir rhieni i wylio’r gystadlaeaeth hon.

 

Bydd pecyn bwyd ysgol yn cael ei ddarparu i’r rhai sy’n derbyn cinio rhad.  Bydd disgwyl i bob disgybl ddod â phecyn bwyd a digon o ddŵr yn ogystal a eli haul ac i wisgo crys T lliw eu llys, gwaelodion tracwisg ar gyfer y dydd a siorts du ar gyfer cystadlu.

 

Gobeithiwn unwaith eto eleni i gael diwrnod mabolgampau hwylus a llwyddiannus, ble fydd pob dysgwyr yn cyfrannu at lwyddiant eu llysoedd mewn awyrgylch gefnogol a chynhwysol.

 

Yn gywir/Yours Sincerely,

 

Mr Meurig JONES                            Mr Iwan JONES

Headteacher                   Leader of Health and Wellbeing