Newyddion Diweddaraf

Prifysgol Abertawe: Astudiaeth Ymchwil

Oes diddordeb gennych i gymryd rhan mewn astudiaeth ymchwil gan Brifysgol Caerdydd sydd yn archwilio profiadau rhieni ag addysg cyfrwng Cymraeg ym Mhen-y-bont ar Ogwr?  Os felly, mae cyswllt yn y wybodaeth er mwyn cynnig eich barn.

Annwyl Riant/Gofalwr,

Hoffwn estyn croeso i chi gymryd rhan mewn astudiaeth ymchwil sydd yn archwilio profiadau rhieni ag addysg cyfrwng Cymraeg ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Mae’r ymchwil yn cael ei gynnal gan Olivia Hitchcock, myfyrwraig MSc mewn Addysg ym Mhrifysgol Caerdydd. Fel rhan o’i thraethawd hir, mae Olivia yn ymchwilio i’r ffactorau sydd yn dylanwadu ar benderfyniadau rhieni i gofrestru eu plant mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, a’r graddau y maent yn teimlo eu bod yn ymgysylltu â dysgu eu plant.

Nod yr ymchwil yw deall safbwyntiau a phrofiadau rhieni yn well, gyda’r gobaith o lywio trafodaethau yn y dyfodol am bolisi ac arferion addysg Gymraeg.

Byddai cymryd rhan yn golygu cyfweliad anffurfiol ar adeg sy’n gyfleus i chi. Mae cymryd rhan yn hollol wirfoddol, a bydd unrhyw wybodaeth a rennir yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol. Ni fydd yr ysgol yn gwybod pwy sydd yn dewis cymryd rhan nac yn peidio, a bydd yr holl ddata yn cael ei ddienw yn yr adroddiad terfynol.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan neu os hoffech wybod mwy, cysylltwch yn uniongyrchol ag Olivia drwy’r e-bost: hitchcocko@cardiff.ac.uk.

Diolch yn fawr am ystyried y gwahoddiad hwn.

Gwybodaeth i Gyfranogwyr – Participation Information

Athro/awes Technoleg gan gynnwys Arlwyo a Lletygarwch

Athro/awes Technoleg gan gynnwys Arlwyo a Lletygarwch

Llawn amser a pharhaol

Graddfa Gyflog Athrawon

ar gyfer Medi 2025 (neu cyn gynted â phosib wedi hynny)

Dyma gyfle arbennig i ymuno ag ysgol flaengar a llwyddiannus sydd â “naws deuluol Gymreig ac ethos cryf o weithio fel tîm sydd yn treiddio’r holl ysgol” (Estyn, 2023). Mae gennym dîm brwdfrydig a thalentog o staff sydd yn ymroi’n llwyr i gynnal y safonau uchaf o ddysgu ac addysgu a chyflawniad ein dysgwyr. Chwiliwn felly am berson blaengar, brwdfrydig, ymroddgar ac egnïol sydd â’r gallu i addysgu o fewn yr adran dylunio a thechnoleg. Mae’r adran hon yn un gweithgar, sydd yn meddu ac yn cynnal safonau uchel o gyflawniad ac yn boblogaidd ymhlith ein dysgwyr, gyda chanran uchel yn parhau i’w astudio ym mlwyddyn 10 ac 11. Mae’r adran yn rhan o’r maes Gwyddoniaeth a Thechnoleg sydd â thîm o staff profiadol sy’n cefnogi’i gilydd ac yn anelu am y gorau o’n dysgwyr a thanio’u brwdfrydedd yn y pwnc. Ystyrir tâl TLR 3a ymsefydlu ar gyfer ymgeisydd profiadol.

Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yw unig ysgol gyfun Gymraeg sir Pen-y-bont ar Ogwr ac mae gennym weledigaeth clir a safonau uchel. “Mae gan yr arweinwyr ddarlun cynhwysfawr o’r cryfderau a’r meysydd i’w gwella yn yr ysgol a maent yn uchelgeisiol ac yn cynllunio’n ofalus ar gyfer gwelliannau” gan gynnig “rhaglen gynhwysfawr o weithgareddau dysgu proffesiynol ar gyfer yr holl staff” (ESTYN, 2023). Lleolir yr ysgol i’r de o bentref hanesyddol Llangynwyd, llai na 10 munud o gyffordd 36 yr M4. Mae iddi gysylltiadau rhwydd a pharod o Abertawe i’r gorllewin (llai na 30 munud) a Chaerdydd i’r dwyrain (25 munud).

Mae hwn yn gyfle arbennig i gychwyn, neu ddatblygu gyrfa a chymryd rhan blaenllaw yn natblygiad yr ysgol gyfan gan fodloni blaenoriaethau cenedlaethol.

Disgwylir i berson sy’n ymgeisio ar gyfer y swydd fodloni’r gofynion isod:

• meddu ar gymwysterau a/neu brofiad priodol ar gyfer addysgu technoleg mewn ysgol uwchradd;

• meddu ar sgiliau cyfathrebu da iawn yn y Gymraeg a’r Saesneg;

• meddu ar sgiliau TGCh da iawn;

• gallu gweithio fel rhan o dîm;

• dangos ymroddiad i gefnogi datblygiad ieithyddol a diwylliannol dysgwyr drwy weithgareddau allgyrsiol;

• ymrwymo’n llawn i gynllun datblygiad proffesiynol parhaus yr ysgol ac ymgymryd â gwaith ymchwil personol fel rhan o’r safonau proffesiynol newydd.

Os hoffech ymuno â ni yn Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd, lawr lwythwch y ffurflen gais oddi ar wefan E-teach ac os ydych am sgwrs anffurfiol, croeso i chi gysylltu â’r ysgol i gael siarad ag aelod o’r Uwch Dîm Arwain.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Mercher, 4 Fehefin 2025 am 9am.

This is an advertisement for the post of a full-time technology teacher in a Welsh Medium School. The ability to communicate fluently in Welsh is essential

 

https://www.eteach.com/job/athroawes-technoleg-gan-gynnwys-arlwyo-a-lletygarwch-1486057

Cymorth byd digidol i rieni a gwarchodwyr

Fel sydd wedi cael ei amlygu gan y wasg yn ddiweddar, mae’r byd ar lein yn peri risg cynyddol i blant a phobl ifanc.  Mae yn bwysig i ni gydweithio gyda’n gilydd i gymryd rôl weithredol i ddysgu plant am beryglon ar lein, sydd yn golygu addysgu ein hunain am y byd ar lein yma, sy’n newid yn gyson.  Mae hyn yn rhan bwysig o ddiogelu ein plant a phobl ifanc.  Dyma rhai dolennau defnyddiol gyda’r bwriad i’ch cefnogi ac eich hysbysu fel rhieni a gwarchodwyr.

 

As highlighted by the media recently, the online world is posing an ever increasing risk to children and young people.  It’s important that we work together in taking an active role in teaching children and young people about online dangers, which does mean educating ourselves about this ever-changing online world.  This is an incredibly important part of safeguarding our children and young people.  Here are some useful links & resources that aim to help support & inform you as parents & guardians:

Emojis explained

https://www.kidsonlineworld.com/shareables.html

 

Parents & Carers – KIDSONLINEWORLD.COM

Shareables – KIDSONLINEWORLD.COM

ECP Safeguarding, a specialist safeguarding company dedicated to empowering organisations that work with children, young people, families, and adults at risk. We partner with organisations across the statutory, public, voluntary, and private sectors, offering specialist consultancy and training services designed to meet the unique needs of those who safeguard vulnerable individuals.

www.kidsonlineworld.com

 

https://hwb.gov.wales/keeping-safe-online

Keeping safe online – Hwb

The latest news, guidance, resources and training to help you, your school and your family stay safe, secure and smart online.

hwb.gov.wales

https://hwb.gov.wales/cadwn-ddiogel-ar-lein

 

Diwrnod Gwisg Anffurfiol ar gyfer Felindre 11/4/2025

Er mwyn cefnogi elusen “Velindre” sydd yn agos iawn i’r ysgol ac sydd ar hyn o bryd yn cefnogi un o deuluoedd y staff, rydym am gynnal diwrnod gwisg eich hunain i’r ysgol ar DDYDD GWENER 11/4/25. Mae hawl gyda dysgwyr i wisgo gwisg eu hunain  (dim gwisg ffansi, flipflops/crocs/sliders) Gofynnwn i ddillad fod yn synhwyrol ar gyfer y diwrnod ysgol.

Gofynnwn i chi gyfrannu o leiaf £1 tuag at Velindre drwy fyndar School Gateway.

Diolch yn fawr iawn.

Tîm Llan