Annwyl Riant/Gwarcheidwad,
Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yn falch o gyhoeddi datblygiad pellach i Siop Tîm Llan eleni. Mae Siop Tîm Llan yn fenter sy’n cael ei redeg gan yr ysgol lle rydym yn casglu gwisg ysgol ail-law ai gynnig i’n teuluoedd ysgol. Mae’r siop wedi bod yn hynod lwyddiannus yn darparu dillad Tîm Llan yn rhad ac am ddim nid yn unig i gefnogi teuluoedd yn ariannol ond hefyd yn darparu ffordd gynaliadwy o gael dillad ysgol.
Bydd Siop Tîm Llan ar gael yn ystod pob noson agored ysgol a noson rieni yn ystod y flwyddyn academaidd. Yn ogystal â hyn, bydd cyfle i chi archebu dillad o’r siop ar-lein drwy lenwi a chyflwyno’r ffurflen hon: >>SIOP TÎM LLAN<< Gofynnwn i chi roi hyd at 10 diwrnod i ni gael yr eitemau rydych wedi eu harchebu yn barod. Gallwch naill ai gasglu’r eitemau o’r dderbynfa neu gellwn ei roi i’ch plentyn yn yr ysgol.
Os hoffech ragor o wybodaeth mae croeso i chi gysylltu â ni.
Diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth/ thank you very much for your support,
Mr Owain Tudur
Uwch Arweinydd Lles
Senior Leader of Well-being