YGGLlan: Mabolgampau

Mabolgampau’r Ysgol 

 

Annwyl Riant / Warcheidwad,

 

Ar Ddydd Mercher 19eg o Orffennaf, cynhelir Diwrnod Mabolgampau Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yng Nghanolfan Athletau Abertawe.

 

Bydd y bysiau yn casglu eich plentyn fel arfer ac yn mynd yn syth i’r Stadiwm yn y bore ac yn casglu y disgyblion oddi yno am 2.30pm.  Ni fydd y bysiau yn dychwelyd i’r ysgol ond yn cludo eich plentyn syth adref.  Bydd amser casglu a dychwelyd y disgyblion mor agos a phosibl i ddiwrnod ysgol arferol. Bydd bws yn cludo y disgyblion hynny sydd yn cerdded i’r ysgol a disgyblion o Faesteg sy’n teithio ar fysiau Llynfi yn gadael o safle’r ysgol am 8.30am.  Disgwylir iddynt fod yno yn brydlon, byddant yn dychwelyd ar gyfer 3.15pm ac yn mynd adref o safle’r ysgol fel arfer.  Ni chaniateir rhieni i wylio’r gystadlaeaeth hon.

 

Bydd pecyn bwyd ysgol yn cael ei ddarparu i’r rhai sy’n derbyn cinio rhad.  Bydd disgwyl i bob disgybl ddod â phecyn bwyd a digon o ddŵr yn ogystal a eli haul ac i wisgo crys T lliw eu llys, gwaelodion tracwisg ar gyfer y dydd a siorts du ar gyfer cystadlu.

 

Gobeithiwn unwaith eto eleni i gael diwrnod mabolgampau hwylus a llwyddiannus, ble fydd pob dysgwyr yn cyfrannu at lwyddiant eu llysoedd mewn awyrgylch gefnogol a chynhwysol.

 

Yn gywir/Yours Sincerely,

 

Mr Meurig JONES                            Mr Iwan JONES

Headteacher                   Leader of Health and Wellbeing