Newyddion Diweddaraf

Rhybudd Coch Tywydd

Rydym ymwybodol o’r rhybudd coch sydd yn ei le ar gyfer dydd Mercher a Iau yr wythnos hon.

Byddwn yn parhau i fonitro’r newyddion ac yn trafod gydag ysgolion y sir ynghyd ag aros am gyfarwyddyd pellach gan yr awdurdod lleol.

Ein blaenoriaeth fel ysgol yw gweithredu mewn modd sy’n sicrhau diogelwch a lles ein dysgwyr a’n staff a byddwn yn eich hysbysu am unrhyw newid i’r trefniadau presennol yfory.

Adroddiad Estyn / Estyn Report

Annwyl riant / gwarcheidwad,

 

Rydym yn falch iawn o rannu bod Estyn wedi cyhoeddi llythyr interim cadarnhaol iawn yn dilyn ei hymweliad diweddar â’r ysgol. Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at y gwaith caled, ymroddiad a chydweithio a welir ar draws cymuned ein hysgol.

Diolch yn fawr iawn i ddysgwyr, staff, llywodraethwyr a rhieni am eich cyfraniad parhaus i wneud Llangynwyd yn le mor braf i ddysgu ac i weithio.

Gallwch ddarllen y llythyr yn llawn yma:Llythyr-ymweliad-interim-Ysgol-Gyfun-Gymraeg-Llangynwyd-2026