YGGLLAN: Athro/awes Dylunio a Thechnoleg

(gwahoddir ceisiadau gan unigolion sy’n arbenigo o fewn unrhyw agwedd o’r pwnc)

Llawn amser a pharhaol (ystyrir ceisiadau am ran amser yn ogystal)

Graddfa Gyflog Athrawon

ar gyfer Medi 2023

Dyma gyfle arbennig i ymuno ag ysgol hapus, blaengar a llwyddiannus, ble mae gennym dîm brwdfrydig a thalentog o staff sydd yn ymroi’n llwyr i gynnal y safonau uchaf o ddysgu ac addysgu a chyflawniad ein dysgwyr. Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yw unig ysgol uwchradd Gymraeg sir Pen-y-bont ar Ogwr ac o ganlyniad i’n perfformiad da, rydym wedi ei sefydlu fel ysgol sydd â safonau uchel a gweledigaeth glir. Lleolir yr ysgol i’r de o bentref hanesyddol Llangynwyd, llai na 10 munud o gyffordd 36 yr M4. Mae iddi gysylltiadau rhwydd a pharod o Abertawe i’r gorllewin (llai na 30 munud) a Chaerdydd i’r dwyrain (25 munud). Mae’r ysgol yn gweithio’n agos gydag ysgolion uwchradd eraill wrth ddatblygu ein cwricwlwm newydd, ynghyd â chynnig amryw o gyfleoedd datblygiad proffesiynol i’n staff.

Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y linc isod

athroawes-dylunio-a-thechnoleg