Urdd

URDD GOBAITH CYMRU

Mewn partneriaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd, mae Adran Chwaraeon yr Urdd yn darparu amryw o gyfleoedd chwaraeon i ddysgwyr yr ysgol. Fel adran rydym yn cynnig:

Darpariaeth 5×60:

Sesiynau wythnosol sydd yn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr fod yn fwy actif, i gymdeithasu ac i gynyddu hyder wrth wneud gweithgareddau corfforol. Mae’r sesiynau yma yn agored i bob dysgwr Bl.7-9.

Prosiect Merched:
Mae’r Rhwydwaith Merched yn cynnig cyfleoedd amrywiol i ferched i gymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol gyda’r bwriad o waredi unrhyw rwystrau sydd yn wynebu merched ifanc rhag bod yn actif yn aml. Mae’r Rhwydwaith Merched yn cwrdd unwaith yr wythnos er mwyn trafod a chynllunio gweithgareddau wythnosol er mwyn sicrhau’r cyfleoedd gorau i ferched yn yr ysgol.

Rhaglen Arweinwyr Ifanc:

Mae’r rhaglen Arweinwyr Ifanc wedi’i sefydlu er mwyn cefnogi datblygiad ein dysgwyr Blwyddyn 9+ mewn partneriaeth gydag Ysgol Llangynwyd a chlybiau Chwaraeon yr Urdd. Mae’r rhaglen yma yn darparu cyfleoedd dysgu clir a rhoi cyfle i ddysgwyr datblygu eu sgiliau arwain i safon uchel ac yn sicrhau y cefnogaeth gorau posib i fod yn Arweinwyr Chwaraeon y dyfodol.

Rhaglen Hyfforddiant yr Urdd:

Oes gennych chi’r awydd i hyfforddi? Dewch i ymuno gyda Rhaglen Hyfforddiant yr Urdd!

 

–      Profiad unigryw o arwain sesiynau chwaraeon trwy gyfrwng y Gymraeg

–      Derbyn cymwysterau hyfforddiant chwaraeon

–      Cyfrannu tuag at CV a cheisiadau UCAS

–      Cit swyddogol hyfforddi yr Urdd

–      Cyfle i dderbyn tal yn y dyfodol

Manylion cyswllt:

Lauren Richards
Swyddog Gweithgareddau Pen-y-bont a CNPT|| NPT and Bridgend’s Sports Activity Officer
laurenrichards@urdd.org