Tripiau Ysgol

Yn Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd rydym yn ymrwymedig i sicrhau profiadau ychwanegol i’n dysgwyr tu hwnt i safle’r ysgol boed yn ystod y diwrnod ysgol arferol neu tu allan i’r cyfnodau hyn.

Trefnir teithiau ac ymweliadau ar gyfer y dibenion canlynol:

  • Cyfoethogi cwricwlwm y dysgwr/myfyriwr
  • Darparu profiadau cwricwlaidd nad sy’n bosib ar safle’r ysgol
  • Darparu profiadau ychwanegol addysgiadol, ysbrydol, moesol a diwylliannol
  • Darparu profiadau i ddefnyddio’r Gymraeg mewn cyd-destun llai ffurfiol ac anffurfiol

Bodlonir y rhinweddau uchod drwy ymweliadau byrion yn ystod amser ysgol, ymweliadau tu hwnt i amser ysgol ac ymweliadau preswyl.

Mae diogelwch ein dysgwyr a’n staff yn cael ei sicrhau ar bob achlysur wrth drefnu unrhyw deithiau ac ymweliadau. Sicrheir ein bod yn cynllunio unrhyw ymweliadau’n ofalus gan ddilyn canllawiau arfer orau a Chyfarwyddyd Cenedlaethol 2014. I’r perwyl hwn, defnyddir system gyfrifiadurol EVOLVE ar gyfer cofnodi manylion am ymweliadau addysgol.

Disgwylir, ar gyfer unrhyw daith neu ymweliad, bod y canlynol yn digwydd:

  • Llythyr i rieni gyda manylion am y daith, gan gynnwys rhwyglen ganiatâd
  • Cyfarfod rhieni a phecyn gwybodaeth (ar gyfer ymweliadau tramor yn unig)
  • Asesiad risg o bob agwedd o’r daith wedi’i gwblhau

Mae’r ysgol yn trefnu teithiau penodol ar gyfer blynyddoedd gwahanol, fel taith i Langrannog ar gyfer blwyddyn 7 a Glanllyn i flwyddyn 8, yn ogystal â theithiau achlysurol o ran gweithgareddau adrannol.