Dysgu Annibynnol

Mae’r ysgol yn frwd i annog a meithrin dysgwyr i fanteisio ar yr offer a’r rhaglenni dysgu sydd ar gael er mwyn datblygu’r sgil o weithio’n annibynnol. Mae hon yn sgil allweddol i bob dysgwr a dechreuir meithrin y sgiliau o weithio’n annibynnol o Flwyddyn 7 ymlaen.

Disgwylir i bob dysgwr gyflawni gwaith cartref/annibynnol/gwaith cwrs yn brydlon ac i’r safon uchaf posibl. Mae natur y tasgau’n amrywiol iawn a gall y gwaith fod ar ffurf sy’n cynnwys: ysgrifennu aseiniad, paratoi ac ymchwilio ar gyfer aseiniad yn ysgrifenedig neu ar lafar, ymweld â llyfrgell, astudio rhaglen deledu, adolygu, dysgu ar gof, astudio a dysgu’r gwaith a gyflawnwyd yn y dosbarth.

Disgwylir i ddysgwyr nodi pob tasg yn eu Trefnydd gan nodi hefyd y dyddiad ar gyfer ei gyflwyno.

Mae eich cefnogaeth chi fel rhieni yn holl bwysig yn y broses o helpu cyflawni gwaith annibynnol. Gofynnwn i chi gadw golwg ar y Trefnydd er mwyn helpu eich plentyn i drefnu ei amser a’i g/waith tu allan i oriau ysgol ac i atal tasgau rhag pentyrru. Mae sicrhau lle tawel ac amser digonol yn helpu plentyn i gyflawni tasgau’n llwyddiannus. Gofynnwn i rieni hefyd lofnodi’r Trefnydd ar ddiwedd bob wythnos fel modd o gadw’r cyswllt hollbwysig rhwng y cartref a’r ysgol.

 

BlwyddynOriau Disgwyliedig fesul pwnc
7 ac 8Hyd at 30 munud i bob pwnc bob cylch amserlen
9Hyd at 45 munud i bob pwnc bob cylch amserlen
10 ac 11Hyd at 60 munud i bob pwnc bob wythnos
12 a 13Hyd at 120 munud i bob pwnc bob wythnos