Disgwyliadau’r Ysgol

Disgwyliadau’r Ysgol

Os bydd dysgwr yn dewis i ymddwyn yn wael, mae gan athrawon yr hawl i drefnu cosb yn unol â pholisi ymddygiad yr ysgol (ar gael ar y wefan). Os nad ydym yn fodlon ar agwedd dysgwr, byddwn yn gwahodd ei rieni i’r ysgol i drafod y broblem. Mewn rhai achosion o gamymddwyn neu batrwm o gamymddwyn cedwir y dysgwr ar ôl ysgol. Pan ddigwydd hyn, hysbysir y rhieni o leiaf 24 awr o flaen llaw. Mewn achosion mwy difrifol gellir gwahardd dysgwr o’r ysgol. Mae gan riant yr hawl i gysylltu â’r Corff Llywodraethol os anghytunir gyda gweithred ddisgyblaethol.

Mae hawl sylfaenol i holl aelodau’r ysgol gael eu parchu gan bawb ac i brofi bywyd hapus yn yr ysgol. Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yn benderfynol o weithio mewn partneriaeth gyda’r teuluoedd ac asiantaethau allanol i leihau’r nifer o achosion o fwlian ac, mor bell ag y mae’n bosib, i’w ddileu o’r ysgol.