Clybiau

Clybiau

Pob brynhawn dydd Gwener mae’r ysgol yn darparu cyfleoedd i ddysgwyr ym mlynyddoedd 7, 8 a 9 i gymryd rhan mewn gweithgareddau all-gyrsiol er mwyn ennyn a datblygu diddordebau gwahanol. Mae’r dysgwyr yn cael dewis pob tymor y clybiau yr hoffent eu mynychu er mwyn cael profiadau amrywiol a hwylus.

Mae aelodau blwyddyn 12 yn rhedeg y clybiau gwahanol gyda chymorth aelodau o staff. Mae hyn yn rhan o’u gwaith ar gyfer y Tystysgrif Her Sgiliau ac felly maent yn cynllunio’n fanwl ac yn sicrhau darpariaeth hwylus a diddorol sy’n helpu datblygu medrau gwahanol ac ychwanegol sydd angen ar ein Dysgwyr Llan.

Clybiau sydd ar gael:

  • Clwb Pêl-Rwyd
  • Clwb Pêl-Droed
  • Clwb TGCh
  • Clwb Pêl-Fasged
  • Clwb Gemau Bwrdd
  • Clwb Celf
  • Clwb Pêl-Osgoi
  • Meddylgarwch
  • Clwb Rygbi
  • Clwb Ieithoedd
  • Clwb Ffitrwydd
  • Clwb Eco
  • Clwb Cerddoriaeth
  • Clwb Drama
  • Clwb Hoci
  • Clwb Gymnasteg
  • Clwb Dug Caeredin (Blwyddyn 9)