Newyddion Diweddaraf

YGGLlan: Bold Vocies

Annwyl riant/gwarcheidwad,

Rydym yn fwyfwy ymwybodol o’r risgiau a’r peryglon i blant a phobl ifanc o AI a phornograffi ‘deepfake’. Mae Bold Voices yn cynnal y weminar hon i roi’r offer i rieni, gofalwyr, staff ysgol ac unrhyw un sy’n gweithio gyda phobl ifanc i ddeall y materion hyn, ynghyd â dulliau ymarferol a chyfeirio at gymorth. Ymunwch â ni ar-lein am awr o gynnwys wedi’i dilyn gan sesiwn Holi ac Ateb 30 munud gyda thîm Bold Voices.

Pryd? Dydd Llun 17 Tachwedd 6:00PM – 7:30PM
📍 Ble? Ar-lein, weminar Zoom

🎟️ Sut alla i gael tocynnau? https://www.eventbrite.co.uk/e/ai-deepfake-pornography-young-peoples-experiences-how-to-protect-them-registration-1895631889009?aff=oddtdtcreator

Cod:  BoldVoicesLlangynwyd fel ei fod yn rhad ac am ddim

Beth alla i ddisgwyl dysgu?

Yn y weminar hon byddwn yn rhoi i chi:

🔺 Gwybodaeth am sut mae AI yn cael ei ddefnyddio fel offeryn ar gyfer cam-drin rhywiol a niwed, a sut mae pobl ifanc yn arbennig yn agored i gael eu hamlygu i’r mathau hyn o drais.

🦾 Sgiliau ymarferol ar gyfer sefydlu, hwyluso a chloi sgyrsiau am y risgiau a’r peryglon sy’n gysylltiedig ag AI a phornograffi ‘deepfake’, gan gynnwys pa oedran i ddechrau’r sgyrsiau hyn, sut i fodelu agoredrwydd a derbyn nad oes gennych yr holl atebion.

🤝 Cyfeirio at gymorth ac adnoddau i ddysgu mwy ac i gael cymorth – ar gyfer oedolion a phobl ifanc.

YGGLLAN: Ras Cofio Kyan 16/9/2025

Annwyl riant/gwarchodwyr,

 

Ar ddydd Mawrth 16eg o Fedi bydd yr ysgol gyfan yn cwblhau cwrs 2km fesul blwyddyn sydd bellach yn ddigwyddiad blynyddol yng nghalendr yr Ysgol er cof am gyn ddysgwr a frwydrodd yn erbyn cancr.  Byddwn yn dathlu bywyd Kyan gyda’n gilydd fel Teulu Llan a gofynnwn yn garedig bod pob dysgwr yn cyfrannu £1 drwy yr app school gateway sydd bellach wedi agor. Bydd yn bosib cyfrannu hyd at yr 22ain o Fedi.  Bydd cyfraniadau yn mynd tuag at elusen Ysbyty Felindre. Rydym hefyd yn rhannu gyda chi dolen ar gyfer tudalen ‘just giving’ er mwyn casglu nawdd i rannu gyda theulu a ffrindiau.  Mae’r holl ddysgwyr wedi derbyn trefniadau’r ras yn yr ysgol ac mae caniatâd i ddysgwyr ddod i’r ysgol yn eu gwisg swyddogol Iechyd a Lles a chrys-t lliw eu llys (Garw, Ogwr neu Llynfi).  Derbynni’r hwdie Iechyd a Lles yr ysgol neu siwmper swyddogol yr ysgol yn unig.  Diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth.

https://www.justgiving.com/page/rascofiokyan2025?utm_medium=FA&utm_source=CL

 

 

Diolch yn fawr am eich cefnogaeth, thank-you for your support,

 

Yr adran Iechyd a Lles