
Hanes
Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yn ysgol ddynodedig cyfrwng Cymraeg i fechgyn a merched rhwng 11 ac 19 oed gaiff ei chynnal gan Awdurdod Unedol Pen-y-bont ar Ogwr. Dyma’r unig ysgol gyfun Gymraeg ar gyfer yr Awdurdod Unedol. Mae’r ysgol wedi ei lleoli ym mhentref hanesyddol Llangynwyd ac mae’n gwasanaethu dalgylch yr Awdurdod Unedol gyfan.
Ers agor yr ysgol yn 2008 gyda 128 o ddisgyblion, mae’r ysgol wedi tyfu i wasanaethu pobl ifanc ar draws y sir gyfan o flwyddyn 7 i flwyddyn 13.
Ethos
Nod ac amcanion yr ysgol yw:
- Hyrwyddo ethos Tîm Llan fel dysgwyr, staff, rhieni a llywodraethwyr, wrth gydweithio’n effeithiol â’n gilydd i sicrhau llwyddiant pob dysgwr ac enw da yr ysgol.
- Creu cymdeithas fyw lle y gwerthfawrogir gwerthoedd moesol ac ysbrydol a lle y pwysleisir rhinweddau megis cyfiawnder, gonestrwydd, ymddiriedaeth, goddefgarwch ac ymdeimlad o ddyletswydd.
- Rhoi cyfle i bob dysgwr feistroli’r grefft o gyfathrebu drwy’r Gymraeg a’r Saesneg, gan bwysleisio’r Gymraeg fel iaith naturiol ac addysgol yr ysgol.
- Datblygu’r ethos o Dîm Llan, drwy gynorthwyo’r dysgwr i ddatblygu sgiliau ar gyfer byd gwaith a fydd yn ei alluogi i weithio fel aelod o dîm ac yn annibynnol.
- Paratoi pob dysgwr i fyw fel aelod cyfrifol a gwerthfawr o’r gymdeithas, i ddatblygu perthynas gadarnhaol gydag eraill ac i ddatblygu hunan-barch a pharch at bobl, eiddo a’r amgylchedd.
- Cynorthwyo’r dysgwr i werthfawrogi treftadaeth a diwylliant Cymru ac i fedru cyfrannu at gymdeithas amlieithog yng Nghymru, Ewrop a’r byd.
- Sicrhau cyfleoedd priodol i holl aelodau staff yr ysgol i ddatblygu’n broffesiynol.
Defnyddio’r Gymraeg
-
Crëwyd Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd er mwyn cyflwyno addysg Gymreig a chyfrwng Cymraeg i blant. Un o brif nodau’r ysgol yw cynnal cymuned Gymreig a rhoddir statws uchel i’r iaith Gymraeg ac i ddiwylliant ein gwlad.
Ni wneir hynny mewn awyrgylch ynysig, mewnblyg, ond o fewn fframwaith ysgol gyfan ac ystod o weithgareddau sy’n ymestyn gorwelion y dysgwyr ymhell tu hwnt i ffiniau’r ardal a ffiniau Cymru. Rhoddir lle amlwg i ddysgu ieithoedd tramor ac i deithiau sy’n rhoi profiadau o wledydd eraill yn Ewrop a thu hwnt. Gwneir pob ymdrech i feithrin dealltwriaeth y dysgwyr o ddiwylliannau a ffyrdd o fyw pobl o bob cenedl.
Daw dros hanner dysgwyr yr ysgol o gartrefi lle siaredir dim, neu ond ychydig o Gymraeg. Oriau ysgol yw prif gyfle’r dysgwyr hyn i ymarfer eu Cymraeg. Mae’r ysgol, felly, yn disgwyl i bob dysgwr siarad Cymraeg yn holl weithgareddau’r ysgol ac yn erfyn ar rieni i roi pob anogaeth iddynt.
Yn gynyddol gwelir bod yr iaith Gymraeg a dwyieithrwydd yn fanteision economaidd yn eu hunain. Mae’r galw am wasanaethau a gweithwyr dwyieithog yn cynyddu’n ddramatig ac yn parhau i wneud hynny. Felly, mae cael caffael da ar y Gymraeg a sicrhau graddfa uchel o ddwyieithrwydd, neu hyd yn oed amlieithrwydd, yn gymwyseddau gwerthfawr a all hyrwyddo ansawdd bywyd unigolion.
Anogir pob dysgwr i ymaelodi â’r Urdd gan fod yna lawer iawn o weithgareddau yn cael eu trefnu o dan faner yr Urdd yn ystod y flwyddyn. Mae hyn yn cynnwys cystadlaethau chwaraeon, cystadlaethau gwaith cartref a gwaith llwyfan Eisteddfod yr Urdd, ymweliadau â’r gwersylloedd, teithiau i gefnogi timau pêl-droed a rygbi Cymru, teithiau eraill gan gynnwys rhai tramor.
