Tim Bugeiliol yr ysgol
Mae gan yr ysgol drefniadau cadarn i gefnogi dysgwyr gyda tim o staff yn cynllunio’n fwriadus er mwyn ymateb i’w anghenion.
- Tiwtor Personol
- Pennaeth Blwyddyn
- Arweinydd Cynnydd a Lles
- Swyddogion Cefnogi Dysgu
- Arweinydd Diogelu Dynodedig a Dirprwyon Diogelu
- CADY a Dirprwy CADY
- Swyddog Maeth a Lles
- Swyddog Ymgysylltu Teuluol
- Swyddog Lles ac Addysg
Mae’r tîm bugeiliol yn cydweithio’n agos gyda nifer o asiantaethau allanol i sicrhau bod anghenion a buddiannau’r dysgwyr yn cael eu trafod. Ceir cymorth cyson gan nifer o fudiadau gwahanol gan gynnwys nyrs yr ysgol, Tîm Cynhwysiant Pen-y-bont, SHINE a Gyrfa Cymru.
Llannerch: Mae tîm o staff bugeiliol yn gweithio yn uned Llannerch er mwyn cefnogi dysgwyr gyda’i anghenion lles, emosiynol ac ymddygiadol.
Tŷ Derwen: Mae Tŷ Derwen yn cefnogi dysgwyr sydd ag amrywiaeth o anghenion gan gynnwys rhai meddygol, cymdeithasol a niwroamrywiol.
Y Bont: Mae’r Bont yn cefnogi dysgwyr sydd ag amrywiaeth o anghenion dysgu cymhedrol a phenodol.
Mae rhan fwyaf o’r disgyblion yn ymfalchïo mewn bod yn rhan o deulu’r ysgol, sef ‘Tîm Llan’, ac yn elwa o’i chymuned ddiogel, ofalgar, glòs a chynhwysol. Maent yn teimlo eu bod yn cael eu parchu a’u trin yn deg, ac yn eu tro, maent yn arddangos lefel uchel o ymddiriedaeth a pharch.
ESTYN, 2023
Tiwtoriaid Dosbarth
