Opsiynau Dysgwyr CA4/5

Cyfnod Allweddol 4

Gwefan bontio CA3>CA4

Yn ystod CA4 mae pob dysgwr yn dilyn y cyrsiau TGAU canlynol:

  • Cymraeg
  • Saesneg
  • Mathemateg a Rhifedd
  • Gwyddoniaeth
  • Tystysgrif Her Sgiliau

Yn ogystal mae cwricwlwm iechyd a lles yn cael ei ddarparu i bob dysgwr sydd yn cynnwys Addysg Gorfforol statudol ac Astudiaethau Crefyddol.

Yn ystod tymor y Gwanwyn ym mlwyddyn 9 mae dysgwyr yn derbyn diwrnod gyrfau er mwyn cyflwyno Llwybrau Dysgu ôl 14. Yn dilyn y diwrnod hwn mae cyfle i ddysgwyr â’u rhieni/gwarcheidwaid fynychu noson agored i dderbyn fwy o wybodaeth am yr holl bynciau opsiwn sydd ar gael yn yr ysgol. Mi fydd y tri colofn opsiwn yn seiliedig ar ddewis rhydd y dysgwyr ac felly gellid amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Mi fydd cyfle i bob dysgwr gwrdd gydag aelod o staff er mwyn trafod eu dewisiadau cyn penderfynu ar ddewis terfynol.

Cyfnod Allweddol 5

Gwefan bontio CA4>CA5

Yn ystod CA5 mae pob myfyriwr yn astudio’r Tystysgrif Her Sgiliau yn ogystal â’u pynciau dewisol.

Ar ddechrau tymor y Gwanwyn ym mlwyddyn 11 mi fydd dysgwyr yn derbyn diwrnod gyrfau er mwyn cyflwyno Llwybrau Dysgu ôl 16 ac yn dilyn y diwrnod hwn mae cyfle i myfyrwyr a’u rhieni/gwarcheidwaid fynychu noson agored i dderbyn fwy o wybodaeth am yr holl bynciau lefel 3 a gynigir gan yr ysgol. Yn ogystal mi fydd cynrychiolydd o’r coleg a Gyrfa Cymru ar gael ar y noson i ddarparu gwybodaeth ychwanegol. Mi fydd y colofnau opsiwn yn seiliedig ar ddewis rhydd y dysgwyr ac felly gellid amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Mi fydd cyfle i bob myfyriwr gwrdd gydag aelod o staff er mwyn trafod eu dewisiadau yn ystod tymor yr Haf ac unwaith eto ar ddiwrnod canlyniadau mis Awst.