LHDT

LHDT

Bwriad Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yw cynnig cyfle cyfartal i bob dysgwr ym mhob agwedd ar fywyd yr ysgol heb wahaniaethu ar sail gallu, rhyw, hil, crefydd nac anabledd corfforol. Rydym yn gwrthwynebu yn gadarnhaol unrhyw raniadau sy’n ymddangos ar sail cefndir hiliol, crefyddol neu ieithyddol dysgwyr trwy gyfrwng Addysg Grefyddol, y rhaglen ABCh a threfniadaeth yr ysgol. Rydym yn gwrthweithio unrhyw ragfarnau mae’r dysgwyr yn eu coleddu. Yn ogystal, mae gan yr ysgol grŵp o ddysgwyr sydd wedi ffurfio BALCH, grŵp LHDT sy’n hyrwyddo cydraddoldeb a dealltwriaeth o faterion lesbiaid, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol.