YGGLLAN: Plant Mewn Angen 15/11/2024
Plant Mewn Angen15/11/2024.
Diwrnod Dillad eich hun.
Dim gwisg fansi, pyjamas, crocs neu sliders.
£1.00 ar School Gateway.
Dewch ag arian parod i chwarae Bingo, Taflu Dŵr at Staff, Raffl ac Enwi’r Tedi.
Gorymdaith Y Nadolig – Tref Maesteg 7/12/2024
YGGLLAN: Diwrnod Sanau Od
Ar ddydd Mawrth 12/11/24 rydym yn annog dysgwyr i wisgo sanau od (2 lliw/patrwm gwahanol) i’r ysgol er mwyn codi ymwybyddiaeth fod hi’n Wythnos Gwrth-fwlio. Mi fydd dysgwyr yn gwneud gweithgareddau gwahanol yn ystod cyfnodau cofrestru fel rhan o raglen Codi Llais yr ysgol i godi ymwybyddiaeth i fod yn barchus i bawb yn unol gyda thema’r wythnos: Dewiswch Barch. Am fwy o wybodaeth ewch i: https://anti-bullyingalliance.org.uk/
Diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth/ Thank you very much for your,
Tîm Llan
Manylion cyswllt / Contact information
Swyddfa / Office: 01656 815700
e-bost / e-mail: post@yggllangynwyd.pen-y-bont.cymru
YGGLLAN: Y Llais / S4C
Bydd cyfres Y Llais (The Voice) yn ffilmio ym Mhen-y-bont ac rydym yn edrych am gynulleidfa i ymuno a ni yn y stiwdio!
Bydd staff/disgyblion/teulu/ffrindiau gyda diddordeb?
Tocynnau am ddim! Bydd modd i ni roi bws am ddim i chi os oes digon o ddiddordeb!
Agored i bawb dros 12.
DYDDIAD / DATE: 29 – 31.10.24 (HANNER TYMOR / HALF TERM)
ARCHEBWCH NAWR – Y Llais | S4C
Disgo Calan Gaeaf
Ar brynhawn dydd Gwener nesaf (25/10/24) mi fydd blynyddoedd 7, 8 a 9 yn cael y cyfle i ddathlu diwedd hanner tymor gyda disgo calan gaeaf!
Mi fydd croeso i ddysgwyr wisgo i fyny mewn gwisg ffansi ar gyfer y disgo ble fydd gwobrau ar gyfer y gwisgoedd gorau ar draws y flwyddyn! Mae gofyn iddynt ddod i’r ysgol mewn gwisg ysgol a mi fydd amserlen newid yn cael ei rannu gyda dysgwyr yn ystod yr wythnos.
Rydym ym gofyn i chi dalu £2 ar School Gateway a fydd yn mynd tuag at elusennau yr ysgol.
Mi fydd dysgwyr y chweched dosbarth yn cynnal siop losin i godi arian tuag at eu prom diwedd blwyddyn felly gofynnwn i ddysgwyr dodd â arian parod i mewn i’r ysgol!
Nodyn i’r dyddiadur: Noson Agored ôl 16
Fe fydd Noson Agored ôl 16 yn cael ei gynnal yn yr ysgol ar 14/11/2024. Rhagor o wybodaeth i ddilyn
YGGLLAN: Taith UDA 2026
Gweithdai llafar TGAU Sbaeneg gan Brifysgol Caerdydd
Annwyl riant/warchodwr,
Dyma neges i’ch hysbysu y bydd eich plentyn yn mynychu gweithdai llafar TGAU Sbaeneg sy’n cael eu cynnal gan Brifysgol Caerdydd. Bydd cydlynydd y prosiect yn dod mewn i’r ysgol i gynnal y gweithdai yn ystod gwersi Sbaeneg eich plentyn yn rhad ac am ddim. (Ni fydd y dysgwyr yn colli unrhyw gwersi eraill wrth gymryd rhan yn y gweithdai yma.)
Pwrpas y gweithdai fydd i helpu dysgwyr i fagu hyder tra’n siarad Sbaeneg, i ddatblygu eu sgiliau llafaredd yn barod ar gyfer yr arholiad llafar ym Mlwyddyn 11, ac i’w hannog i barhau i astudio Sbaeneg ar ôl iddynt gwblhau eu cymwysterau TGAU.
Dyma’r dyddiadau y bydd y gweithdai yn cael eu cynnal:
17/10/24
05/11/24
26/11/24
02/12/24
11/12/24
17/12/24
Diolch yn fawr am eich cefnogaeth parhaus,
Miss A David
Arweinydd yr Adran Sbaeneg







