Rhybudd Coch Tywydd

Rydym ymwybodol o’r rhybudd coch sydd yn ei le ar gyfer dydd Mercher a Iau yr wythnos hon.

Byddwn yn parhau i fonitro’r newyddion ac yn trafod gydag ysgolion y sir ynghyd ag aros am gyfarwyddyd pellach gan yr awdurdod lleol.

Ein blaenoriaeth fel ysgol yw gweithredu mewn modd sy’n sicrhau diogelwch a lles ein dysgwyr a’n staff a byddwn yn eich hysbysu am unrhyw newid i’r trefniadau presennol yfory.