Newyddion Diweddaraf
Gweithgareddau Allgyrsiol
Wythnos yn dechrau 19-01-2026
Swydd: Athro/awes Mathemateg
Athro/awes Mathemateg
Llawn amser a Pharhoal (yn ddibynnol ar brofiad yr ymgeisydd)
Graddfa Gyflog
ar gyfer Medi 2026 neu’n gynt os yn bosib
Cliciwch yma am rhagor o fanylion ac i wneud cais.
Dyma gyfle arbennig i ymuno ag ysgol flaengar a llwyddiannus sydd â “naws deuluol Gymreig ac ethos cryf o weithio fel tîm sydd yn treiddio’r holl ysgol” (Estyn, 2023). Mae gennym dîm brwdfrydig a thalentog o staff sydd yn ymroi’n llwyr i gynnal y safonau uchaf o ddysgu ac addysgu a chyflawniad ein dysgwyr. Chwiliwn felly am berson blaengar, brwdfrydig, ymroddgar ac egnïol sydd â’r gallu i addysgu o fewn yr adran fathemateg a rhifedd. Mae’r adran hon yn un llwyddiannus, sydd yn meddu ac yn cynnal y safonau uchaf o gyflawniad ac yn boblogaidd ymhlith ein dysgwyr, gyda chanran uchel yn parhau i’w astudio i Safon Uwch. Mae gan yr adran dîm llwyddiannus a phrofiadol o staff sydd yn cefnogi’i gilydd ac yn anelu am y gorau o’n dysgwyr a thanio’u brwdfrydedd yn y pwnc. Mae’r ysgol yn rhoi pwyslais ar “gynllunio’n strategol ar gyfer datblygiad medrau disgyblion” (Estyn, 2023) a bydd cyfle i’r ymgeisydd llwyddiannus gydweithio â thîm medrau’r ysgol er mwyn adeiladu ar yr arferion cadarnhaol sydd ar waith.
Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yw unig ysgol gyfun Gymraeg sir Pen-y-bont ar Ogwr ac mae gennym weledigaeth clir a safonau uchel. “Mae gan yr arweinwyr ddarlun cynhwysfawr o’r cryfderau a’r meysydd i’w gwella yn yr ysgol a maent yn uchelgeisiol ac yn cynllunio’n ofalus ar gyfer gwelliannau” gan gynnig “rhaglen gynhwysfawr o weithgareddau dysgu proffesiynol ar gyfer yr holl staff” (ESTYN, 2023). Lleolir yr ysgol i’r de o bentref hanesyddol Llangynwyd, llai na 10 munud o gyffordd 36 yr M4. Mae iddi gysylltiadau rhwydd a pharod o Abertawe i’r gorllewin (llai na 30 munud) a Chaerdydd i’r dwyrain (25 munud).
Mae hwn yn gyfle arbennig i gychwyn, neu ddatblygu gyrfa a chymryd rhan blaenllaw yn natblygiad yr ysgol gyfan gan fodloni blaenoriaethau cenedlaethol.
Disgwylir i berson sy’n ymgeisio ar gyfer y swydd fodloni’r gofynion isod:
• meddu ar gymwysterau a/neu brofiad priodol ar gyfer addysgu mathemateg mewn ysgol uwchradd;
• meddu ar sgiliau cyfathrebu da iawn yn y Gymraeg a’r Saesneg;
• meddu ar sgiliau TGCh da iawn;
• gallu gweithio fel rhan o dîm;
• dangos ymroddiad i gefnogi datblygiad ieithyddol a diwylliannol dysgwyr drwy weithgareddau allgyrsiol;
• ymrwymo’n llawn i gynllun datblygiad proffesiynol parhaus yr ysgol ac ymgymryd â gwaith ymchwil personol fel rhan o’r safonau proffesiynol newydd.
Os hoffech ymuno â ni yn Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd, lawr lwythwch y ffurflen gais oddi ar wefan E-teach ac os ydych am sgwrs anffurfiol, croeso i chi gysylltu â’r ysgol i gael siarad ag aelod o’r Uwch Dîm Arwain.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Llun 19eg o Ionawr erbyn 17:00
This is an advertisement for the post of a full-time mathematics teacher in a Welsh Medium School. The ability to communicate fluently in Welsh is essential
Adroddiad Estyn 2023
Safeguarding Statement
Llais y Llan
CTM UHB – Cwm Taf Morgannwg University Health Board
Gall plant a fethodd raglen brechu ffliw’r ysgol barhau i dderbyn eu brechlyn ffliw yn un o’n chwe Chanolfan Brechu Cymunedol (CVCs).
Mae sesiynau galw heibio ar gael:
Pryd: Dydd Llun i Ddydd Gwener, 3:30yp – 4:30yp
Ble: Unrhyw un o’n chwe CVC. Mae Lleoliadau ac oriau agor ar gael ar ein gwefan.
Nid oes angen apwyntiad ar rieni/gwarcheidwaid – gallant ffonio i mewn yn ystod yr amseroedd hyn.
Mae llythyrau hefyd yn cael eu hanfon at deuluoedd â phlant heb eu brechu, yn eu gwahodd i fynychu CVC i gael brechiad ffliw. Fodd bynnag, os hoffent i’w plentyn gael ei frechu’n gynt, mae croeso iddynt ddefnyddio’r sesiynau galw heibio.
Diolch i chi am ein helpu i rannu’r wybodaeth bwysig hon ac amddiffyn plant rhag y ffliw.
Rydym yn dymuno tymor Nadoligaidd pleserus a Blwyddyn Newydd iach a hapus i chi gyd.
Cofion cynnes,
Gwasanaeth Brechu ac Imiwneiddio
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Diwrnod Siwmper Nadolig – 17-12-2025
CTM: Parti Bwmp CTM 26-11-2025
YGGLLAN: Diwrnod Lluniau 27/11/2025
CGY: Diweddariad ar y Cynnydd Tuag at Ganolfan Iechyd a Lles Maesteg Tachwedd 2025.
Newyddion Maesteg Hospital Briefing (Schools Update) – November 2025 FINAL (Welsh)
YGGLlAN: Plant Mewn Angen 14/11/2025
Ar ddydd Gwener 14/11/25 mi fydd hawl i ddysgwyr wisgo gwisg eu hunain i’r ysgol i gefnogi Plant Mewn Angen. Gofynnwn i chi gyfrannu £1 ar Gateway ar gyfer yr hawl i wisgo gwisg eich hunain ac mi fydd gweithgareddau yn digwydd yn ystod egwyl a chinio felly gofynnwn i ddysgwyr ddod a’g arian parod os ydynt am gymryd rhan.
Diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth!




