Rhybudd Coch Tywydd

Rydym ymwybodol o’r rhybudd coch sydd yn ei le ar gyfer dydd Mercher a Iau yr wythnos hon.

Byddwn yn parhau i fonitro’r newyddion ac yn trafod gydag ysgolion y sir ynghyd ag aros am gyfarwyddyd pellach gan yr awdurdod lleol.

Ein blaenoriaeth fel ysgol yw gweithredu mewn modd sy’n sicrhau diogelwch a lles ein dysgwyr a’n staff a byddwn yn eich hysbysu am unrhyw newid i’r trefniadau presennol yfory.

Adroddiad Estyn / Estyn Report

Annwyl riant / gwarcheidwad,

 

Rydym yn falch iawn o rannu bod Estyn wedi cyhoeddi llythyr interim cadarnhaol iawn yn dilyn ei hymweliad diweddar â’r ysgol. Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at y gwaith caled, ymroddiad a chydweithio a welir ar draws cymuned ein hysgol.

Diolch yn fawr iawn i ddysgwyr, staff, llywodraethwyr a rhieni am eich cyfraniad parhaus i wneud Llangynwyd yn le mor braf i ddysgu ac i weithio.

Gallwch ddarllen y llythyr yn llawn yma:Llythyr-ymweliad-interim-Ysgol-Gyfun-Gymraeg-Llangynwyd-2026

Addasiad i Diwrnodau HMS

Gobeithio i chi fwynhau’r hanner tymor.

Nid oes diwrnod HMS ar ddydd Gwener 27ain o Chwefror ac felly bydd ysgol fel arfer bob dydd yr wythnos hon.

Mae’r diwrnod HMS nesaf ar ddydd Gwener 27ain o Fawrth – ymddiheuriadau am unrhyw ddryswch.

 

Diolch am eich cefnogaeth parhaus

Bl11 – Manylion Colofnau Chweched Dosbarth Lefel A Medi 2026

Annwyl riant / gwarchodwr

Wedi ei hatodi mae manylion colofnau Lefel A yr ysgol ar gyfer mis Medi 2026. Gofynnwn fod dysgwyr yn defnyddio’r ddolen i ddewis y pynciau yr hoffent astudio yn y chweched dosbarth. Os nad ydynt yn bwriadau dychwelyd i Langynwyd, gofynnwn yn garedig iddynt nodi ei llwybr dewisol (Coleg, swydd, prentisiaeth):  https://forms.office.com/e/JWkN6HGtPh. Dyddiad cau: 25.02.26.

 

Diolch yn fawr

 

Owen Lewis

Pennaeth Cynorthwyol