MAaTh

Mwy Abl a Thalentog

Credwn yn Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yn yr angen i greu cymuned ddysgu gynhwysol sy’n dathlu cymeriad, gallu a thalent unigryw pob plentyn. Byddwn fel ysgol yn hyrwyddo profiadau ysgogol a heriol trwy gwricwlwm eang a chytbwys, gweithgareddau cyfoethog o ansawdd sy’n ffocysu ar anghenion a thalentau neilltuol, a chyngor gyrfaol ac academaidd. Ymrwymwn i ddarparu cefnogaeth ac i gwrdd ag anghenion dysgwyr cyn gynted â phosibl er mwyn eu galluogi i gyflawni eu gorau.

Yn unol ag arwyddair a datganiad o genhadaeth yr ysgol bwriad y polisi hwn yw i ddatblygu darpariaeth ar gyfer ein dysgwyr MATh drwy:

  • Datblygu cwricwlwm sy’n ymestyn a chyfoethogi profiadau dysgu’r grŵp o ddysgwyr neilltuol yma.
  • Datblygu ystod o strategaethau dysgu ac addysgu sy’n ymestyn a rhoi cynhaliaeth i ddatblygiad dysgwyr.
  • Datblygu cefnogaeth emosiynol, gyrfaol a chymdeithasol.
  • Gweithio’n effeithiol mewn partneriaeth â dysgwyr a rhieni / gofalwyr i ddarparu gwybodaeth am ddulliau cefnogi diweddaraf.
  • Adnabod anghenion a datblygu dull ysgol gyfan o fwrw ati i ddiwallu anghenion dysgwyr mwy galluog a thalentog
  • Adnabod a chofnodi enwau dysgwyr mwy abl ar system SIMS / Cofnod Cynnydd yr ysgol
  • Adnabod dysgwyr talentog ar system SIMS / Cofnod Cynnydd yr ysgol
  • Sicrhau bod systemau monitro a gwerthuso effeithiol yn eu lle.

Er mwyn sicrhau dealltwriaeth ar draws yr ysgol o ddysgwyr MATh ceir diffiniadau cytunedig o’r ymadrodd ‘mwy abl a thalentog’:

Ystyriwn bod y term ‘mwy abl’ yn cwmpasu dysgwyr sy’n fwy galluog yn academaidd ar draws y cwricwlwm.

Ystyriwn bod y term ‘talentog’ yn cwmpasu’r rhai sy’n dangos talent arbennig mewn pynciau neu faes cwricwlwm penodol neu sydd yn meddu sgiliau datblygedig, fel sgiliau chwaraeon, artistig, cerddorol, drama neu ddawns yn ogystal â sgiliau arwain a rhyngbersonol.