Cydweithio Trawsclwstwr
Mae’r ysgol yn cydweithio’n agos gyda pob un o’r ysglion clwstwr er mwyn sichrau bod y dysgwyr yn dilyn cwricwlwm cydlynus ac adeiladol drwy gydol eu gyrfa addysgiadol.
Gyda’n gilydd rydym yn dilyn y gweledigaeth isod:
Cluster Transition Plan 2025-26
Sail Resymegol y Cwricwlwm
Mae cwricwlwm Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yn un eang, cytbwys a chynhwysol sydd wedi ei ddylunio er mwyn cefnogi pob dysgwr i wneud cynnydd priodol yn unol â’u gallu. Mae’n gwricwlwm uchelgeisiol a chreadigol sy’n datblygu dysgwyr iachus a mentrus gan feithrin sgiliau a gwybodaeth angenrheidiol i ganiatáu unigolion hyderus ar hyd eu llwybr dysgu a thu hwnt.
Diben y Cwricwlwm
- Darparu cwricwlwm eang a chytbwys sy’n meithrin dysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu gydol eu bywydau
- Darparu profiadau, gwybodaeth a sgiliau sy’n hyrwyddo dysgwyr fel cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
- Darparu ystod o gyfleoedd y tu fewn a thu allan i’r ystafell ddosbarth sy’n cyfoethogi’r dysgu ac yn annog dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd
- Cwrdd ag anghenion bob dysgwr er mwyn annog unigolion iach, hyderus a gwydn sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas
- Sicrhau bod dysgwyr yn cael profiad o astudio ystod o bynciau yng nghyfnod allweddol 3 yn ogystal â’r pynciau craidd gan ddiwallu gofynion pob maes dysgu a phrofiad a chadw pob llwybr gyrfa neu astudiaethau pellach yn agored iddynt
Mae cwricwlwm Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yn caniatáu i ddysgwyr ddatblygu:
- agwedd cadarnhaol ac ymrwymiad at ddysgu
- y gallu i ganfod, gwerthuso a defnyddio tystiolaeth wrth ffurfio barn a thrafod materion cyfoes ar sail eu gwybodaeth a’u gwerthoedd
- gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth sy’n berthnasol i fywyd a chyflogaeth mewn byd sy’n esblygu’n barhaus
- sgiliau trawsgwricwlaidd; llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol
- sgiliau cyfannol megis creadigrwydd, meddwl yn feirniadol a datrys problemau, effeithiolrwydd personol a chynllunio a threfnu
- cydnabyddiaeth o’u cryfderau a’u doniau ynghyd â gwerthfawrogi llwyddiannau eraill
- ymdeimlad o gyfrifoldeb dros eu cynnydd drwy adnabod ac ymateb i’r agweddau i’w gwella
- y gallu i weithio’n annibynnol a chyd-weithio’n hyderus fel aelod o dîm
- hunan hyder, hunan werth a’r dealltwriaeth am hawliau dynol ac amrywiaeth
Gweithredu’r Cwricwlwm
Mae gan bob adran gynllun gwaith sy’n seiliedig ar y continwwm clwstwr, y Cwricwlwm Cenedlaethol a gofynion y byrddau arholi. Disgwylir i bob aelod o staff o fewn adran ddilyn y cynllun gwaith ac mae’r Arweinydd Adran yn monitro ddarpariaeth drwy’r prosesau hunan arfarnu. Mae’r cynlluniau gwaith wedi ei strwythuro er mwyn amlygu’r sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth sydd angen ei ddatblygu dros amser.
Sicrheir fod yna gydbwysedd rhwng arbenigedd a phrofiad athrawon ar draws yr amrediad oed a gallu a fod pob athro yn gymwys i ddysgu trwy gyfwng y Gymraeg (ac eithrio pwnc Saesneg). Mae’r athrawon yn cyd-gynllunio er mwyn sicrhau dealltwriaeth cadarn o sut mae cyflwyno’r cynllun gwaith ar draws cyfres cydlynol o wersi ac er mwyn adnabod cysylltiadau dilys boed o fewn yr adran, maes neu thu hwnt.
Cynllunnir tasgau annibynnol priodol sy’n rhoi cyfle i ddysgwyr meithrin y sgiliau a gyflwynir o fewn gwersi ynghyd â cyfoethogi eu dealltwriaeth. Rhoddir amser digonol i ddysgwyr gwblhau’r gwaith hwn ynghyd â cyfle i dderbyn cefnogaeth pellach yn ôl yr angen.
Caiff dysgwyr sydd â gofynion mynediad neu anghenion dysgu ychwanegol (ADY) eu cynorthwyo o fewn gwersi o dan arweiniad yr adran gynnal lle’n briodol. Addysgir o fewn dosbarthiadau gallu cymysg ar ddechrau eu gyrfa ysgol ac mae’r dosbarthiadau yma yn parhau mewn nifer o bynciau. Lle bo angen bydd yr adran gynnal yn trefnu ymyraethau priodol ar gyfer dysgwyr unigol neu mewn grwpiau bychain.
Mae’r cwricwlwm yn cael ei fireinio’n gyson er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i ddiwallu anghenion ein dysgwyr. Mae’r athrawon yn cydweithio er mwyn gwerthuso’r ddarpariaeth presennol ac mae ystod o brosesau monitro ac arfarnu yn cael eu defnyddio’n gyson. Mae llais y dysgwyr yn holl bwysig a cynhelir holiaduron a grwpiau ffocws ar lefel adran ac ysgol gyfan drwy gydol y flwyddyn. Croesawir mewnbwn gan rhanddeiliaid hefyd gan gynnwys ein clwstwr a’n rhieni.
Cwricwlwm Academaidd
Ym mlynyddoedd 7, 8 a 9 cynigir cwricwlwm eang a chyfoethog sydd wedi ei ddylunio yn unol â gofynion Cwricwlwm i Gymru. Mae’n rhoi cyfle i ddysgwyr astudio disgyblaethau ar draws y chwe maes dysgu a phrofiad gan ddatblygu sylfaen addysgol cadarn wrth baratoi ar gyfer astudiaethau ym mlwyddyn 10. O ganlyniad, mae modd i ddysgwyr wneud penderfyniadau gwybodus wrth ddewis opsiynau TGAU ar ddiwedd blwyddyn 9. Lle’n briodol cynigir cwricwlwm addasedig i ddysgwyr TyDerwen er mwyn diwallu eu hanghenion addysgiadol.
Cefnogir dysgwyr wrth iddynt wneud dewisiadau ôl 14 ac ôl 16 trwy ddiwrnodau gyrfau, gwefan bontio ynghyd â chyfarfodydd gyda’r tîm bugeiliol. Cynhelir awdit dewis rhydd blynyddol er mwyn llunio colofnau sydd yn diwallu anghenion y dysgwyr presennol orau. Cydnabyddir bod cynnig pob pwnc opsiynol ym mlwyddyn 10 yn ddibynnol ar niferoedd hyfyw.
Mae Chweched dosbarth Llangynwyd yn cynnig ystod eang a chytbwys o gymwysterau Lefel A a galwedigaethol sydd yn diwallu anghenion ein dysgwyr. Mae’r cynnig blynyddol yn ddibynnol ar ddewis rhydd dysgwyr blwyddyn 11. Er bod yr ysgol yn ceisio ymateb i ddyheadau pob dysgwr, mae cynnig pynciau yn ddibynnol ar niferoedd hyfyw. Yn ogystal â tri pwnc opsiynol, mae’n ofynnol i bob dysgwyr astudio’r Tystysgrif Her Sgiliau tra yn y Chweched. Mae’r ysgol hefyd yn cynnig rhaglen llawn amser Lefel 3 Gofal Plant lle mae’r dysgwr yn cwblhau gwersi theori yn yr ysgol a’r agwedd ymarferol tra ar leoliad blynyddoedd cynnar.
Cwricwlwm Ehangach
Yn ogystal â datblygiad academaidd yr unigolyn mae’r cwricwlwm yn hyrwyddo datblygiad personol holistaidd a chyflawn ac yn cydnabod y fframweithiau mandadol ychwanegol a gyflwynir yn y ddeddfwriaeth.
Dimensiwn Cymreig a’r Iaith Gymraeg: Fel unig ysgol cyfrwng Cymraeg y sir mae’r ysgol yn ymfalchïo yn ei allu i ddarparu cwricwlwm eang a chytbwys drwy’r Gymraeg i’n dysgwyr o flwyddyn 7 hyd at 13. Drwy gynnig profiadau o ddiwylliannau Cymraeg a byd-eang rhoddir cyfle i’r dysgwyr feithrin hunaniaeth bersonol a gwerthfawrogiad o’r gymdeithas aml-ddiwylliannol fodern gan adnabod manteision dwy-ieithrwydd o fewn y gymdeithas honno. Mae’r ysgol yn ymwybodol bod yr ymdeimlad cryf o berthyn o gymorth i greu teimladau positif o gysylltiad rhwng ein dysgwyr, cymuned yr ysgol, eu hardal leol, Cymru ac i’r byd ehangach.
Rhaglen fugeiliol: Darperir rhaglen fugeiliol drwy gyfnodau tiwtor, gwasanaethau, diwrnodau her a defnydd asiantaethau allanol lle’n briodol.
Cwricwlwm estynedig: Cynigir ystod eang o gyfleon i ddysgwyr o fewn a thu hwnt i’r gwersi dydd i ddydd. Mae’r cwricwlwm ysgol ynghyd â’r partneriaethau gref mae’r ysgol wedi’u sefydlu gydag amryw o asiantaethau allanol yn darparu profiadau cadarnhaol, cyfoethog a chofiadwy i’n dysgwyr er mwyn meithrin cymhelliant a dyfnhau dealltwriaeth. Cynigir amryw o gyfleon allgyrsiol i ddysgwyr drwy weithgareddau, cystadlaethau, ymweliadau a theithiau preswyl.
Addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig byd gwaith: Darperir rhaglen addysg gyrfau a menter ar draws yr ysgol o fewn gwersi yn ogystal thrwy diwrnodau her yn ystod y flwyddyn. Mae swyddog gyrfau yn yr ysgol dwy waith yr wythnos er mwyn cynnig cyngor a chefnogaeth effeithlon a ddi-duedd i ddysgwyr. Mae’r swyddog gyrfau yn darparu cyfweliadau yn benodol i ddysgwyr CA4 a 5 yn ogystal cynnig sesiynau i ddysgwyr CA3 yn ystod diwrnodau her yn ôl lle’n berthnasol. Rhoddir cefnogaeth ychwanegol i unigolion yn unol â’u hanghenion lle’n briodol. Bwriad yr ysgol yw cynnig wythnos profiad gwaith i bob dysgwr ym mlwyddyn 10 ac 12.
Addysg cydberthynas a rhywioldeb: Defnyddir Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb Cwricwlwm i Gymru (Ionawr 2022) wrth gynllunio’r rhaglen addysg cydberthynas a rhywioldeb ar draws yr ysgol. Mae’r Cod hwn yn cynnwys gofynion gorfodol ar gyfer blwyddyn 7 yn unig o Fedi 2022, ac mae’r sail gyfreithiol ar gyfer y gofynion hyn i’w gweld yn y crynodeb deddfwriaethol yn y canllawiau fframwaith hyn ar y Cwricwlwm i Gymru. Y nod yw cynorthwyo dysgwyr i feithrin y sgiliau a’r wybodaeth sy’n briodol i’w hoedran a’u dealltwriaeth a’u galluogi i wneud penderfyniadau cyfrifol ynglŷn â’u perthnasoedd, emosiynau a iechyd a lles rhywiol. Darperir yr addysg cydberthynas a rhywioldeb drwy ddiwrnodau her ynghyd â drwy’r cwricwlwm craidd lle’n berthnasol gan ystyried amrywiaeth o ffactorau gan gynnwys gwybodaeth ac aeddfedrwydd y dysgwr, ei ddatblygiad ffisiolegol ac emosiynol yn ogystal ag unrhyw anghenion dysgu ychwanegol.
Crefydd, gwerthoedd a moeseg: Fel agwedd statudol Cwricwlwm i Gymru, mae’r elfen hwn yn orfodol i bob dysgwr hyd at 16 oed. Mae’n canolbwyntio ar ddeall credoau crefyddol ac anghrefyddol, arferion, gwerthoedd ac athroniaeth foesol, ac yn archwilio’n wrthrychol i safbwyntiau crefyddol ac anghrefyddol a’u cysylltiad â gwerthoedd personol er mwyn gwneud penderfyniadau moesol. Ei nod yw meithrin agwedd agored a pharch tuag at amrywiaeth o gredoau, gan helpu dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau meddwl yn feirniadol a gwneud ymatebion gwybodus i heriau cymdeithasol a thechnolegol mewn byd sy’n newid yn gyson.
Hawliau a Chyfleoedd Cyfartal: Mae’r cwricwlwm yn rhoi cyfle i ddysgwyr ddysgu am hawliau dynol, gan eu hannog i holi, dadansoddi, trafod, gwneud penderfyniadau, gwerthuso a datblygu ymddygiadau sy’n seiliedig ar werthoedd. Nod y cwricwlwm yw cynnig cyfleoedd cyfartal i bob unigolyn ym mhob agwedd ar fywyd ysgol, heb wahaniaethu ar sail gallu, rhywioldeb, hil, anabledd neu grefydd. At y diben hwn, bydd gan bob dysgwr yr hawl i gael mynediad at amrywiaeth eang a chytbwys o weithgareddau addysgol, yn rhydd o ragfarn. Bydd yr ysgol yn meithrin datblygiad pob unigolyn fel eu bod yn cyrraedd eu llawn botensial, heb unrhyw fath o stereoteipio.
Nodweddion y Cwricwlwm
- Amserlen tair wythnos gyda 6 gwers 50 munud bob dydd
- Cyfnod clybiau gwers olaf dydd Gwener ar gyfer dysgwyr 7 – 9 sy’n cael ei arwain gan fl.12
- Cyfnod llwybrau ôl 18 gwers olaf dydd Gwener ar gyfer dysgwyr blwyddyn 13
- Hyd at 5 diwrnod her ar draws y flwyddyn
- Wythnos sgiliau yn ystod tymor yr Haf
- Wythnos o brofiad gwaith ym mlwyddyn 12
