Ysgol Gyfan

YGGLLAN: Ras Cofio Kyan 16/9/2025

Annwyl riant/gwarchodwyr,

 

Ar ddydd Mawrth 16eg o Fedi bydd yr ysgol gyfan yn cwblhau cwrs 2km fesul blwyddyn sydd bellach yn ddigwyddiad blynyddol yng nghalendr yr Ysgol er cof am gyn ddysgwr a frwydrodd yn erbyn cancr.  Byddwn yn dathlu bywyd Kyan gyda’n gilydd fel Teulu Llan a gofynnwn yn garedig bod pob dysgwr yn cyfrannu £1 drwy yr app school gateway sydd bellach wedi agor. Bydd yn bosib cyfrannu hyd at yr 22ain o Fedi.  Bydd cyfraniadau yn mynd tuag at elusen Ysbyty Felindre. Rydym hefyd yn rhannu gyda chi dolen ar gyfer tudalen ‘just giving’ er mwyn casglu nawdd i rannu gyda theulu a ffrindiau.  Mae’r holl ddysgwyr wedi derbyn trefniadau’r ras yn yr ysgol ac mae caniatâd i ddysgwyr ddod i’r ysgol yn eu gwisg swyddogol Iechyd a Lles a chrys-t lliw eu llys (Garw, Ogwr neu Llynfi).  Derbynni’r hwdie Iechyd a Lles yr ysgol neu siwmper swyddogol yr ysgol yn unig.  Diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth.

https://www.justgiving.com/page/rascofiokyan2025?utm_medium=FA&utm_source=CL

 

 

Diolch yn fawr am eich cefnogaeth, thank-you for your support,

 

Yr adran Iechyd a Lles

YGGLLAN: Diffyg Pwer – Ysgol ar gau i ddysgwyr, Dydd Llun 9/12/2024

Yn anffodus bydd yr ysgol ar gau ar ddydd Llun 9fed o Ragfyr yn sgil diffyg pŵer yn yr ardal. Yn ôl gwefan y Grid Cenedlaethol bydd y pwer yn dychwelyd erbyn 18:00 ar nos Lun ac felly byddwn yn monitro’r sefyllfa gan obeithio y byddwn ar agor fel arfer ar ddydd Mawrth. Ymddiheurwn ond mae’n bosib bydd hwn yn cael effaith ar ein system ffon yn ystod y dydd yfory. Gofynnwn bod dysgwyr yn parhau gyda’r gwaith sydd gennyn nhw i’w gwblhau dros Teams/Classrooms.

YGGLLAN: Plant Mewn Angen 15/11/2024

Plant Mewn Angen15/11/2024.

Diwrnod Dillad eich hun.

Dim gwisg fansi, pyjamas, crocs neu sliders.

£1.00 ar School Gateway.

Dewch ag arian parod i chwarae Bingo, Taflu Dŵr at Staff, Raffl ac Enwi’r Tedi.

YGGLLAN: Diwrnod Sanau Od

Ar ddydd Mawrth 12/11/24 rydym yn annog dysgwyr i wisgo sanau od (2 lliw/patrwm gwahanol) i’r ysgol er mwyn codi ymwybyddiaeth fod hi’n Wythnos Gwrth-fwlio. Mi fydd dysgwyr yn gwneud gweithgareddau gwahanol yn ystod cyfnodau cofrestru fel rhan o raglen Codi Llais yr ysgol i godi ymwybyddiaeth i fod yn barchus i bawb yn unol gyda thema’r wythnos: Dewiswch Barch. Am fwy o wybodaeth ewch i: https://anti-bullyingalliance.org.uk/

Diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth/ Thank you very much for your,

Tîm Llan

Manylion cyswllt / Contact information
Swyddfa / Office: 01656 815700
e-bost / e-mail: post@yggllangynwyd.pen-y-bont.cymru

DIWRNOD BYD-EANG SYNDROM DOWN

DIWRNOD BYD-EANG SYNDROM DOWN

DDYDD IAU 21/03/24 

Cefnogwch digwyddiad Pwyllgor Cydraddoldeb Tîm Llan gan wisgo sanau od i’r ysgol ar ddydd Iau i godi ymwybyddiaeth am ddiwrnod byd-eang Syndrom Down!