Blwyddyn 11

Bl11 – Manylion Colofnau Chweched Dosbarth Lefel A Medi 2026

Annwyl riant / gwarchodwr

Wedi ei hatodi mae manylion colofnau Lefel A yr ysgol ar gyfer mis Medi 2026. Gofynnwn fod dysgwyr yn defnyddio’r ddolen i ddewis y pynciau yr hoffent astudio yn y chweched dosbarth. Os nad ydynt yn bwriadau dychwelyd i Langynwyd, gofynnwn yn garedig iddynt nodi ei llwybr dewisol (Coleg, swydd, prentisiaeth):  https://forms.office.com/e/JWkN6HGtPh. Dyddiad cau: 25.02.26.

 

Diolch yn fawr

 

Owen Lewis

Pennaeth Cynorthwyol

YGGLLAN: Diffyg Pwer – Ysgol ar gau i ddysgwyr, Dydd Llun 9/12/2024

Yn anffodus bydd yr ysgol ar gau ar ddydd Llun 9fed o Ragfyr yn sgil diffyg pŵer yn yr ardal. Yn ôl gwefan y Grid Cenedlaethol bydd y pwer yn dychwelyd erbyn 18:00 ar nos Lun ac felly byddwn yn monitro’r sefyllfa gan obeithio y byddwn ar agor fel arfer ar ddydd Mawrth. Ymddiheurwn ond mae’n bosib bydd hwn yn cael effaith ar ein system ffon yn ystod y dydd yfory. Gofynnwn bod dysgwyr yn parhau gyda’r gwaith sydd gennyn nhw i’w gwblhau dros Teams/Classrooms.