Gweler y llythyr isod am rhagor o fanylion
YGGLL: Sioe Ysgol – Y Sioe Fach Arswydus
Mae tocynnau’r sioe gerdd nawr ar werth. Mae’r tocynnau yn cael eu gwerthu trwy wefan Awen, mae’r linc isod. Dewch yn llu!
https://awenboxoffice.com/cy/whats-on/siop-fach-arswydus-llangynwyd-comp-evening/
YGGLlan: Gweithgareddau Allgyrsiol W/D 29/9/2025
Gweler 29.9.25 am ragor o fanylion.
URDD: Clwb Pel-Droed Merched
YGGLLAN: Ras Cofio Kyan 16/9/2025
Annwyl riant/gwarchodwyr,
Ar ddydd Mawrth 16eg o Fedi bydd yr ysgol gyfan yn cwblhau cwrs 2km fesul blwyddyn sydd bellach yn ddigwyddiad blynyddol yng nghalendr yr Ysgol er cof am gyn ddysgwr a frwydrodd yn erbyn cancr. Byddwn yn dathlu bywyd Kyan gyda’n gilydd fel Teulu Llan a gofynnwn yn garedig bod pob dysgwr yn cyfrannu £1 drwy yr app school gateway sydd bellach wedi agor. Bydd yn bosib cyfrannu hyd at yr 22ain o Fedi. Bydd cyfraniadau yn mynd tuag at elusen Ysbyty Felindre. Rydym hefyd yn rhannu gyda chi dolen ar gyfer tudalen ‘just giving’ er mwyn casglu nawdd i rannu gyda theulu a ffrindiau. Mae’r holl ddysgwyr wedi derbyn trefniadau’r ras yn yr ysgol ac mae caniatâd i ddysgwyr ddod i’r ysgol yn eu gwisg swyddogol Iechyd a Lles a chrys-t lliw eu llys (Garw, Ogwr neu Llynfi). Derbynni’r hwdie Iechyd a Lles yr ysgol neu siwmper swyddogol yr ysgol yn unig. Diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth.
https://www.justgiving.com/page/rascofiokyan2025?utm_medium=FA&utm_source=CL
Diolch yn fawr am eich cefnogaeth, thank-you for your support,
Yr adran Iechyd a Lles
YGGLLAN:Diwrnod Lluniau Bl 7 & 12
Imiwneiddio Plant Haf 2025
Gweler isod lythyr am imwneiddio plant 2025
Taith: War Horse 21-10-2025
Am ragor o wybodaeth cliciwch yma War Horse
Prifysgol Abertawe: Astudiaeth Ymchwil
Oes diddordeb gennych i gymryd rhan mewn astudiaeth ymchwil gan Brifysgol Caerdydd sydd yn archwilio profiadau rhieni ag addysg cyfrwng Cymraeg ym Mhen-y-bont ar Ogwr? Os felly, mae cyswllt yn y wybodaeth er mwyn cynnig eich barn.
Annwyl Riant/Gofalwr,
Hoffwn estyn croeso i chi gymryd rhan mewn astudiaeth ymchwil sydd yn archwilio profiadau rhieni ag addysg cyfrwng Cymraeg ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Mae’r ymchwil yn cael ei gynnal gan Olivia Hitchcock, myfyrwraig MSc mewn Addysg ym Mhrifysgol Caerdydd. Fel rhan o’i thraethawd hir, mae Olivia yn ymchwilio i’r ffactorau sydd yn dylanwadu ar benderfyniadau rhieni i gofrestru eu plant mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, a’r graddau y maent yn teimlo eu bod yn ymgysylltu â dysgu eu plant.
Nod yr ymchwil yw deall safbwyntiau a phrofiadau rhieni yn well, gyda’r gobaith o lywio trafodaethau yn y dyfodol am bolisi ac arferion addysg Gymraeg.
Byddai cymryd rhan yn golygu cyfweliad anffurfiol ar adeg sy’n gyfleus i chi. Mae cymryd rhan yn hollol wirfoddol, a bydd unrhyw wybodaeth a rennir yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol. Ni fydd yr ysgol yn gwybod pwy sydd yn dewis cymryd rhan nac yn peidio, a bydd yr holl ddata yn cael ei ddienw yn yr adroddiad terfynol.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan neu os hoffech wybod mwy, cysylltwch yn uniongyrchol ag Olivia drwy’r e-bost: hitchcocko@cardiff.ac.uk.
Diolch yn fawr am ystyried y gwahoddiad hwn.



