Oes diddordeb gennych i gymryd rhan mewn astudiaeth ymchwil gan Brifysgol Caerdydd sydd yn archwilio profiadau rhieni ag addysg cyfrwng Cymraeg ym Mhen-y-bont ar Ogwr? Os felly, mae cyswllt yn y wybodaeth er mwyn cynnig eich barn.
Annwyl Riant/Gofalwr,
Hoffwn estyn croeso i chi gymryd rhan mewn astudiaeth ymchwil sydd yn archwilio profiadau rhieni ag addysg cyfrwng Cymraeg ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Mae’r ymchwil yn cael ei gynnal gan Olivia Hitchcock, myfyrwraig MSc mewn Addysg ym Mhrifysgol Caerdydd. Fel rhan o’i thraethawd hir, mae Olivia yn ymchwilio i’r ffactorau sydd yn dylanwadu ar benderfyniadau rhieni i gofrestru eu plant mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, a’r graddau y maent yn teimlo eu bod yn ymgysylltu â dysgu eu plant.
Nod yr ymchwil yw deall safbwyntiau a phrofiadau rhieni yn well, gyda’r gobaith o lywio trafodaethau yn y dyfodol am bolisi ac arferion addysg Gymraeg.
Byddai cymryd rhan yn golygu cyfweliad anffurfiol ar adeg sy’n gyfleus i chi. Mae cymryd rhan yn hollol wirfoddol, a bydd unrhyw wybodaeth a rennir yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol. Ni fydd yr ysgol yn gwybod pwy sydd yn dewis cymryd rhan nac yn peidio, a bydd yr holl ddata yn cael ei ddienw yn yr adroddiad terfynol.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan neu os hoffech wybod mwy, cysylltwch yn uniongyrchol ag Olivia drwy’r e-bost: hitchcocko@cardiff.ac.uk.
Diolch yn fawr am ystyried y gwahoddiad hwn.
