Prifathro

Neges gan y Prifathro

Yn Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd, ein nod yw sicrhau’r gorau i’n disgyblion ym mhob agwedd ar fywyd ysgol. Mae ein staff brwdfrydig ac ymroddedig yn gweithio’n ddiflino er mwyn sicrhau bod ein pobl ifanc yn datblygu’n unigolion hyderus, uchelgeisiol ac arloesol, yn barod ar gyfer eu llwybrau yn y dyfodol. Gwerthfawrogwn bwysigrwydd cwricwla eang a chytbwys er mwyn rhoi cyfle i ddysgwyr ffynnu ar draws y meysydd gwahanol gan sicrhau amryw o brofiadau allgyrsiol gwerthfawr i gyfoethogi’r dysgu.

Drwy feithrin nodweddion Dysgwr Llan cynigwn profiadau dysgu sy’n meithrin unigolion iachus a mentrus, gan roi’r sgiliau angenrheidiol iddynt lwyddo. Anelwn at feithrin balchder ein dysgwyr yn eu hetifeddiaeth ieithyddol a diwylliannol er mwyn datblygu dinasyddion egwyddorol sy’n ymfalchïo yn eu cynefin, Cymru a’r iaith Gymraeg ac sy’n hyderus i wneud cyfraniad cadarnhaol o fewn eu cymunedau.

Mae cydweithio effeithiol yn cefnogi llwyddiant ac mae partneriaeth agos rhwng y cartref a’r ysgol yn allweddol er mwyn sicrhau safonau uchel ymhob agwedd ar waith yr ysgol ac yn caniatáu’r gynhaliaeth orau ar gyfer ein dysgwyr.

“Dysg…Dawn…Dyfodol” – yma yn Llangynwyd mae pob dysgwr yn cael y cyfle i ddysgu, i ddatblygu dawn, ac i lunio dyfodol llwyddiannus.

Edrychwn ymlaen at eich croesawu i fod yn aelod o Dîm Llan

 

Catrin Evans
Prifathro