Senedd yr Ysgol

Senedd yr Ysgol

Yn Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd cawn Senedd yr Ysgol lle mae dysgwyr o bob blwyddyn yn cyfarfod i drafod a chodi ymwybyddiaeth o faterion sydd o bwys i ddysgwyr yn yr ysgol.

Mae gan Senedd yr Ysgol sawl pwyllgor sy’n trafod materion pendant:

  • Pwyllgor Cymreictod
  • Pwyllgor Amgylchedd
  • Grŵp Balch
  • Pwyllgor Iechyd a Lles

Disgwylir i bob adran, fel rhan o’u proses hunan-werthuso, wrando ar farn y dysgwyr wrth iddynt barhau i wella darpariaeth a chodi safonau. Yn ychwanegol, yn ystod y flwyddyn, mae’r Uwch Dîm Arwain yn cynnal arolwg dros sawl adran ac mae llais y dysgwr yn chwarae rhan allweddol yn yr arolygon hyn.

Dyma ein haelodau eleni 2021/2022