Annwyl riant/warchodwr,
Dyma neges i’ch hysbysu y bydd eich plentyn yn mynychu gweithdai llafar TGAU Sbaeneg sy’n cael eu cynnal gan Brifysgol Caerdydd. Bydd cydlynydd y prosiect yn dod mewn i’r ysgol i gynnal y gweithdai yn ystod gwersi Sbaeneg eich plentyn yn rhad ac am ddim. (Ni fydd y dysgwyr yn colli unrhyw gwersi eraill wrth gymryd rhan yn y gweithdai yma.)
Pwrpas y gweithdai fydd i helpu dysgwyr i fagu hyder tra’n siarad Sbaeneg, i ddatblygu eu sgiliau llafaredd yn barod ar gyfer yr arholiad llafar ym Mlwyddyn 11, ac i’w hannog i barhau i astudio Sbaeneg ar ôl iddynt gwblhau eu cymwysterau TGAU.
Dyma’r dyddiadau y bydd y gweithdai yn cael eu cynnal:
17/10/24
05/11/24
26/11/24
02/12/24
11/12/24
17/12/24
Diolch yn fawr am eich cefnogaeth parhaus,
Miss A David
Arweinydd yr Adran Sbaeneg
