Gwybodaeth Cyffredinol

Cysylltu â’r ysgol

Mae modd cyfathrebu â’r ysgol trwy’r dulliau canlynol:
Ffonio ar
01656 815700
Gyrru ebost at
post@yggllangynwyd.pen-y-bont.cymru

Gofynnir i rieni nodi’n fras pwrpas yr alwad fel bod modd cyfeirio neges at y person perthnasol.
Yn anffodus nid yw bob tro’n bosib siarad yn syth gydag aelod o staff ond anelwn at ymateb i unrhyw gyswllt o fewn 48 awr man hwyraf.

Mae’r ysgol yn defnyddio platform Classcharts er mwyn adrodd ar gyfraniad dysgwyr i fywyd yr ysgol o ddydd i dydd. Mae modd i bob rhiant greu cyfrif er mwyn cael mynediad at broffil eich plentyn. Yn ogystal â gwybodaeth gyffredinol am gyfraniad eich plentyn bydd yr adran Addysg Gorfforol yn defnyddio’r platfform hwn i rannu gwybodaeth am ddigwyddiadau a chystadlaethau.

Mae cyfryngau cymdeithasol yr ysgol yn ffordd o rannu gwybodaeth cyffresinol a dathlu llwyddiannau ein dysgwyr. Nid yw’n ffordd swyddogol o gyfathrebu ac felly nid oes modd i’r ysgol ddarllen nag ymateb i’r sylwadau/negeseuon a roddir yma.

Salwch ac Absenoldebau

Os yw dysgwr yn absennol gofynnir yn garedig i’r rhiant/gofalwr gysylltu â’r ysgol cyn 09:00.
Er mwyn i ni allu prosesu gwybodaeth am absenoldebau mor effeithlon â phosib, mae llinell uniongyrchol gennym ar gyfer recordio neges.

Rhif ffon y llinell hon yw 01656 815708

Mewn achosion o salwch hir dymor gofynnir i’r rhiant / gofalwr drefnu cyfarfod gyda’r Pennaeth Blwyddyn er mwyn trafod sut y gellid gefnogi’r dysgwr yn effeithiol.

Nid yw’r ysgol yn dosbarthu tabledi lliniaru poen. Gofynnir i rieni gysylltu â’r ysgol pan fo angen i ddysgwr gymryd unrhyw feddyginiaeth yn ystod oriau ysgol. Dylid trosglwyddo unrhyw feddyginiaeth i’w chadw yn ddiogel yn y prif swyddfa / TyDerwen ac fe’i roddir i’r dysgwr dan arolygaeth.
Bydd angen i rieni anfon llythyr o ganiatâd a chyfarwyddiadau gyda’r meddyginiaeth.

Presenoldeb

Mae mynychu’r ysgol yn gyson yn rhan bwysig o roi’r cyfle gorau posib i bob dysgwr gyrraedd eu llawn potensial. Mae tystiolaeth yn dangos bod cydberthyniad cryf rhwng presenoldeb a chyrhaeddiad academaidd ac mae presenoldeb islaw 97% yn cyfateb i golli o leiaf 7 diwrnod llawn o addysg ar draws blwyddyn academaidd. Mae presenoldeb isel yn fater pwysig, ond rydym yn cydnabod bod pob achos yn wahanol a byddwn yn gweithio’n agos gyda theuluoedd er mwyn gwella’r sefyllfa a cynnig cefnogaeth lle’n bosib.
Mae’r ysgol yn gwerthfawrogi ymrwymiad ein dysgwyr a’u rhieni at anelu at bresenoldeb uchel ac rydym yn ymfalchio yn ein canran presenoldeb blynyddol sydd yn cymharu’r ffafriol gyda’r ystadegau cenedlaethol.

Mewn achosion eithriadol lle mae rhiant am wneud cais am absenoldeb awdurdodedig i’w plentyn rhaid gwneud cais ysgrifenedig i’r Prifathro.