Mae’r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd yma / The ability to teach through the medium of Welsh is essential to this post.
Dyma gyfle i ymuno ag ysgol hapus, flaengar a llwyddiannus, gyda thîm cyfeillgar, brwdfrydig a thalentog o staff sy’n ymrwymedig i gynnal y safonau uchaf o addysgu a dysgu. Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yw’r unig ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac mae gennym hanes o berfformiad arbennig sydd wedi ei sefydlu ar safonau uchel a gweledigaeth glir ac uchelgeisiol. Lleolir yr ysgol tua 10 munud o gyffordd 36 yr M4, yn hawdd ei chyrraedd o Abertawe (llai na 30 munud) ac o Gaerdydd (25 munud).
Rydym yn chwilio am athro neu athrawes Dylunio a Thechnoleg uchelgeisiol ac ysbrydoledig i arwain yr Adran Dechnoleg. Gyda’r cymwysterau newydd, bydd gennych y cyfle, yr ymddiriedaeth a’r gefnogaeth i lunio cyfeiriad yr adran o Flwyddyn 7 hyd at Safon Uwch, er mwyn darparu ystod o brofiadau gwerthfawr ynghyd ag addysg ysgogol i’n dysgwyr.
Gallech fod yn arweinydd canol profiadol sy’n chwilio am her newydd, neu’n athro/athrawes ragorol sy’n barod i gymryd eich cam cyntaf i arweinyddiaeth.
“Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yn cynnig awyrgylch cadarnhaol i ddysgwyr ffynnu’n academaidd a datblygu’n ddinasyddion cyflawn. Mae awyrgylch teuluol Cymreig ac ethos cryf o weithio fel tîm yn treiddio drwy’r ysgol gyfan.” (Adroddiad ysgol Estyn, Mawrth 2023)
AM WYBODAETH PELLACH: https://www.eteach.com/job/arweinydd-yr-adran-dechnoleg-1584902
