Dyma gyfle arbennig i ymuno ag ysgol hapus, blaengar a llwyddiannus iawn, ble mae gennym dîm cyfeillgar, brwdfrydig a thalentog o staff sydd yn ymroi’n llwyr i gynnal y safonau uchaf o ddysgu ac addysgu a chyflawniad ein dysgwyr.
Chwiliwn felly am berson blaengar, brwdfrydig, ymroddgar ac egnïol sydd â’r gallu i ymuno gyda’r tîm gweinyddol a chyfrannu’n fawr at waith allweddol yr ysgol.
Cais Swyddog Gweinyddol a Chyllidol
Os hoffech ymuno â ni yn Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd, lawr lwythwch y ffurflen gais oddi ar wefan E-teach ac os ydych am sgwrs anffurfiol, croeso i chi gysylltu â’r ysgol i gael siarad gyda’r Rheolwr Busnes a Cyllid, Mrs Clare Isaac
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Llun, 30 Medi 2024 am 9am.
This is an advertisement for the post of a full-time Administrator in a Welsh Medium School. The ability to converse in Welsh on a daily basis is essential.